Mae’r Cymro Tom Lawrence yn dweud ei bod hi’n “fraint” cael ei enwi fel capten newydd Derby County.

Mae’r gŵr 27 oed wedi bod gyda’r clwb am yn hirach nag yr un aelod arall o’r garfan, ar ôl ymuno â’r clwb o Gaerlŷr yn haf 2017.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb mae wedi sgorio 26 gôl mewn 146 o gemau.

Datgelodd Wayne Rooney, rheolwr y clwb, y newyddion i’r garfan ddydd Llun (12 Gorffennaf).

Methodd Lawrence gyfnod hir o’r tymor diwethaf oherwydd anaf ond dychwelodd ym misoedd olaf yr ymgyrch ac roedd yn ffigwr dylanwadol ar y cae ac oddi arno.

Fodd bynnag, nid oedd hynny’n ddigon i sicrhau ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2020, yr ail waith iddo fethu cael lle myn y garfan, ar ôl siom n 2016 hefyd.

Ond mae Rooney, oedd yn gapten ar Manchester United, Everton a Lloegr yn ystod ei yrfa chwarae, yn argyhoeddedig bod Lawrence yn barod i ymgymryd â’r her o fod yn gapten.

“Mae Tom yn yr oed a’r cyfnod yn ei yrfa nawr lle mae angen iddo gamu i fyny,” meddai.

“Rwy’n credu y bydd yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb sy’n dod â bod yn gapten ac yn sicrhau ei fod ef a’r tîm yn gwneud y pethau iawn.

“Rwy’n credu ei fod yn y foment berffaith i ymgymryd â’r her hon.

“Mae’n gyfrifoldeb mawr, ac roedd yn gyffrous pan ddywedais wrtho.”

“Braint”

Dywedodd Lawrence: “Mae’n fraint enfawr i mi fod yn gapten ar glwb fel Derby County, ac alla i ddim disgwyl i arwain y bechgyn allan.

“Siaradodd y rheolwr â mi’r wythnos diwethaf ac mae wedi ymddiried ynof i arwain y grŵp eleni.

“Byddaf yn gwneud popeth i’w wneud yn dymor positif.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod nad oedd y tymor diwethaf yn ddigon da ym mhob maes ac rydyn ni eisiau bod yn ôl i fyny tuag at ben uchaf yr adran eleni.

“Mae’r bechgyn i gyd wedi bod yn wych gyda fi am y peth ac rwy’n ddiolchgar am hynny, ond nid dim ond amdanaf i oherwydd bod nifer o gapteiniaid yn y tîm hwn.”