Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i’r afael â’r hiliaeth annerbyniol yn erbyn pêl-droedwyr ar-lein.

Daw galwadau Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldeb y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn cyfres o ymosodiadau “ffiaidd” yn erbyn chwaraewyr Lloegr wedi eu gêm derfynol yn yr Ewros.

Dywed Altaf Hussain fod diffyg gweithredu ar ran cwmnïau fel Facebook a Twitter yn rhoi’r golau gwyrdd i bobol gam-drin chwaraewyr, fel yr ymosodiadau ar Marcus Rashford, Bukayo Saka, a Jadon Sancho ar ôl iddyn nhw fethu ciciau o’r smotyn yn y gêm yn yr erbyn yr Eidal.

Mae ei alwadau yn adleisio rhai Yan Dhanda, pêl-droediwr sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Abertawe, y dylid gwahardd pobol sy’n anfon negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol am oes.

Ychydig fisoedd yn ôl, cynhaliodd Clwb Pêl-droed Abertawe streic wythnos fel safiad yn erbyn camdriniaeth ar-lein, a bu nifer o sefydliadau pêl-droed eraill yn dilyn eu hesiampl drwy foicotio’r cyfryngau cymdeithasol.

‘Dim lle i hiliaeth’

“Roeddwn i wedi fy syfrdanu ac wedi dychryn gan yr ymosodiadau ffiaidd yn erbyn rhai o bêl-droedwyr Lloegr ar ôl gêm derfynol yr Ewros y penwythnos diwethaf,” meddai Altaf Hussain, sy’n cynrychioli de-orllewin Cymru yn y Senedd.

“Does yna ddim lle o gwbl i hiliaeth mewn pêl-droed, nac mewn unrhyw ran arall o gymdeithas, ac mae’n rhaid i ni wneud yn well er mwyn mynd i’r afael â’r mater a dal pobol yn atebol.”

Ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 14), fe wnaeth Boris Johnson addo gwahardd pobol sy’n cam-drin pêl-droedwyr ar-lein rhag mynychu stadiymau am hyd at ddeng mlynedd.

“Mae angen gwneud mwy i gael gwared ar ymosodiadau hiliol mewn chwaraeon, a dw i’n croesawu cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu newid gorchmynion gwahardd mewn pêl-droed fel eu bod nhw’n cynnwys hiliaeth ar-lein,” meddai Altaf Hussain wedyn.

“Mae’n rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gamu mewn hefyd, a gweithredu megis drwy wahardd defnyddwyr rhag defnyddio eu llwyfannau os ydyn nhw’n postio ymosodiadau hiliol.”

Goblygiadau

Mae Instagram wedi cyfaddef wrth y BBC fod camgymeriadau yn eu technoleg wedi golygu fod sylwadau  ac emojis hiliol heb gael eu dileu.

Yn ôl Adam Mosseri, pennaeth Instagram, mae’r broblem wedi cael ei datrys a bydd sylwadau o’r fath yn cael eu hadolygu’n iawn o hyn ymlaen.

Yn y cyfamser, mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio am yrru sylwadau hiliol at chwaraewyr Lloegr, gyda’r Prif Gwnstabl Mark Roberts yn dweud bod y gamdriniaeth yn “hollol afiach”.

“Os ydyn ni’n adnabod mai chi sydd y tu ôl i’r drosedd hon, byddwn ni’n dod o hyd i chi, a byddwch chi’n wynebu goblygiadau difrifol am eich gweithgareddau cywilyddus,” meddai arweinydd plismona pêl-droed Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Mark Drakeford yn condemnio’r casineb hiliol tuag at chwaraewyr Lloegr

“Rydym yn sefyll gyda chwaraewyr Lloegr yn erbyn unrhyw fath o wahaniaethu – nid oes lle iddo o fewn ein cymdeithas”