Mae Sophie Ingle wedi’i henwi’n un o dri chapten tîm pêl-droed Prydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo eleni.

Bydd hi’n gapten ar y cyd â’r Albanes Kim Little a Steph Houghton o Loegr, a bydd pob chwaraewr yn cael y cyfle i fod yn gapten drwy gydol y twrnament.

Sophie Ingle yw’r unig chwaraewr sy’n cynrychioli Cymru yn y garfan.

Mae is-gapten yr Alban Little a chapten Lloegr Houghton hefyd yn gapteiniaid ar eu clybiau Arsenal a Manchester City, tra bod Ingle, sy’n chwarae i Chelsea, yn gapten ar Gymru.

Mae gêm grŵp gyntaf tîm Prydain yn erbyn Chile ar Orffennaf 21 yn Sapporo.

Yna, bydd y tîm yn herio Japan yn Sapporo ar Orffennaf 24, cyn teithio i Kashima i herio Canada ar Orffennaf 27.

Bydd y ddau dîm gorau yn mynd i’r rowndiau gogynderfynol, yn ogystal â’r gemau trydydd safle.