Mae Alun Wyn Jones wedi’i enwi ymhlith eilyddion y Llewod ar gyfer y gêm baratoadol yn erbyn y Stomers ddydd Sadwrn (Gorffennaf 17).

Fe wnaeth capten y garfan ddatgymalu ei ysgwydd yn y gêm baratoadol yn erbyn Japan cyn i’r garfan deithio i Dde Affrica, a doedd dim disgwyl iddo fe gymryd rhan yn y daith, gyda’r Gwyddel Conor Murray wedi’i enwi’n gapten yn ei le.

Ond mae’r chwaraewr ail reng wedi gwella’n rhyfeddol ac wedi hedfan allan i ymuno â’r garfan ar ôl bod yn ymarfer gyda Chymru er mwyn adennill ei ffitrwydd.

Hefyd yn dychwelyd mae Josh Adams, a hynny ar ôl genedigaeth ei blentyn.

Mae’r clo Adam Beard wedi’i gynnwys ymhlith y blaenwyr, ac mae lle i’r mewnwr Gareth Davies a’r asgellwr Louis Rees-Zammit ar y fainc hefyd.

Tîm y Llewod: Hogg: Adams, Daly, Henshaw, Van der Merwe; Smith, Price, Sutherland, Cowan-Dickie, Furlong, Beard, Hill, Beirne, H Watson, Conan

Eilyddion: George, Vunipola, Fagerson, AW Jones, Simmonds, Davies, Harris, Rees-Zammit