Mae saith newid yn nhîm rygbi Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn yr Ariannin yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Gorffennaf 15).

Bydd Cymru’n ennill y gyfres o 1-0 pe baen nhw’n ennill, ar ôl cael gêm gyfartal 20-20 yn y prawf cyntaf.

Daw Tomos Williams a Jarrod Evans i mewn i safleoedd yr haneri ar ôl creu argraff fel eilyddion yn y prawf cyntaf.

Daw Tom Rogers i mewn ar yr asgell, gyda Nick Tompkins yn dod i mewn i’r canol, tra bod Jonathan Davies yn holliach ar ôl cael anaf.

Bydd y prop Gareth Thomas yn dechrau gêm am y tro cyntaf, gyda Leon Brown ben draw’r rheng flaen.

Daw Josh Turnbull i mewn yn flaenasgellwr yn lle Aaron Wainwright, sydd wedi’i anafu.

Gallai Matthew Screech ddod i’r cae am y tro cyntaf oddi ar y fainc, tra bod Sam Parry a Rhodri Jones hefyd wedi’u cynwys am y tro cyntaf yr haf yma.

Bydd y canolwr Willis Halaholo ar y fainc hefyd yn dilyn pryderon am ei ffitrwydd.

Tîm Cymru: Hallam Amos, Owen Lane, Nick Tompkins, Jonathan Davies (capten), Tom Rogers, Jarrod Evans, Tomos Williams; Gareth Thomas, Elliot Dee, Leon Brown, Ben Carter, Will Rowlands, Josh Turnbull, James Botham, Ross Moriarty.

Eilyddion: Sam Parry, Rhodri Jones, Dillon Lewis, Matthew Screech, Taine Basham, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Willis Halaholo.