Mae hi’n noson dyngedfennol i’r Seintiau Newydd a’r Bala yn Ewrop heno (nos Iau, Gorffennaf 15), gyda gobeithion y ddau dîm o gyrraedd ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd UEFA – yn dal i fod yn fyw.

Bydd y Seintiau Newydd yn herio Glentoran FC – tîm o Belffast sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon – yn Neuadd y Parc, Croesoswallt heno gyda’r gic gyntaf am 6:15yh.

Gêm gyfartal 1-1 oedd hi rhwng y ddau dîm yr wythnos ddiwethaf.

Sgoriodd Leo Smith gôl anhygoel i’r Seintiau cyn i Jamie McDonagh unioni’r sgôr gyda 10 munud yn weddill.

Mae’r Seintiau Newydd wedi cyflawni tipyn o gamp wrth iddyn nhw gystadlu yn Ewrop am yr 22ain tymor yn olynol.

Ar y llaw arall, mae Glentoran FC wedi chwarae 100 o gemau Ewropeaidd ym mhob cystadleuaeth, gan drechu cewri megis Arsenal a Basel ar hyd blynyddoedd.

Ond fe enillodd Y Seintiau Newydd eu gêm Ewropeaidd gartref ddiwethaf 3-1 yn ystod amser ychwanegol yng Nghynghrair Ewropa 2020/21, yn dilyn goliau gan Louis Robles, Leo Smith ac Adrian Cieslewicz.

Bydd tîm Anthony Limbrick ar dân eisiau efelychu’r canlyniad hwnnw heno.

Larne FC v Y Bala

Bydd y Bala yn teithio i Larne FC yng Ngogledd Iwerddon – sy’n chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor hwn – gyda’r gic gyntaf am 7:30yh.

Colli o 1-0 oedd hanes y Bala yn erbyn Larne FC, oedd yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Sgoriodd David McDaid unig gôl y gêm ar ôl dau funud, yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan y Bala.

Roedd hi’n gêm hanesyddol i Kieran Smith wrth iddo dorri record y Bala am y nifer fwyaf o ymddangosiadau i’r clwb yn Ewrop (11).

Er bod y tîm cartref dan anfantais, bydd Colin Caton yn gobeithio y bydd gan ei dîm ddigon i wrthdroi’r sgôr ag anfon y Bala i’r ail rownd ragbrofol.

Siom i Cei Connah a’r Drenewydd

Bydd TNS a’r Bala yn gobeithio am ganlyniadau gwell na’r rhai gafodd Cei Connah a’r Drenewydd yr wythnos hon.

Boddi wrth y lan wnaeth Cei Connah neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 14), gan golli o 1-0 (3-2 dros y ddau gymal) yn erbyn FC Alashkert, pencampwyr Armenia, ar ôl amser ychwanegol.

Er gwaetha’r siom, dyw’r antur Ewropeaidd ddim yn dod i ben, gyda Cei Connah yn disgyn i ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd UEFA – lle byddan nhw’n herio FC Prishtina yn Kosovo ddydd Mawrth (Gorffennaf 20).

Ar y llaw arall, mae antur Ewropeaidd y Drenewydd wedi dod i ben, wrth iddyn nhw golli 5-0 dros y ddau gymal yn erbyn Dundalk, y tîm o Weriniaeth Iwerddon.

Yn dilyn yr ail gymal, lle collodd y Drenewydd 1-0, dywedodd y rheolwr Chris Hughes, ei bod “bron yn amhosib” i dimau Cymru gystadlu ar lefel Ewropeaidd.

Tor calon i Cei Connah yn Ewrop

Y garfan wnaeth deithio i Armenia gyda 15 chwaraewr yn colli o 1-0 ar ôl amser ychwanegol

“Bron yn amhosib” i dimau Cymru gystadlu ar lefel Ewropeaidd, yn ôl rheolwr y Drenewydd

“Dydw i ddim yn gwybod yr ateb. A ddylai fod mwy o fuddsoddiad mewn clybiau gan y llywodraeth? Mwy o gefnogaeth o bosibl?”

Noson siomedig i dimau Cymru yn Ewrop

Gêm gyfartal i’r Seintiau Newydd, ond y Bala a’r Drenewydd yn colli