Siom fu i dimau Cymru yn Ewrop neithiwr (nos Iau, 9 Gorffennaf) ar y cyfan, gyda’r un ohonynt yn llwyddo i ennill.

Roedd y Seintiau Newydd, y Bala a’r Drenewydd yn cystadlu yng Nghyngres Ewropa, cystadleuaeth newydd UEFA.

Mae hi’n gystadleuaeth ar gyfer timau lefel isaf Cynghrair Ewropa, sydd wedi ei gwtogi o 48 i 32 o dimau yn y grwpiau eleni.

Does dim timau’n cymhwyso’n uniongyrchol i grwpiau Cyngres Ewropa, gyda deg tîm yn disgyn o Gynghrair Ewropa a’r gweddill yn dod drwy’r rowndiau rhagbrofol.

Glentoran FC 1 – 1 Y Seintiau Newydd

Gêm gyfartal gafodd y Seintiau Newydd oddi gartref yn erbyn Glentoran FC.

Sgoriodd Leo Smith gôl anhygoel i’r Seintiau cyn i Jamie McDonagh unioni’r sgôr gyda 10 munud yn weddill.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gobeithion y Seintiau o gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn dal yn eu dwylo nhw eu hunain.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar 15 Gorffennaf yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gyda’r gic gyntaf am 6:15yh.

Y Bala 0 – 1 Larne FC

Colli o 1-0 oedd hanes y Bala yn erbyn Larne FC, y clwb o Ogledd Iwerddon oedd yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Sgoriodd David McDaid unig gôl y gêm ar ôl dau funud, yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan y Bala.

Dyw’r canlyniad ddim yn ddiwedd y byd i’r Bala, fydd yn gobeithio am fuddugoliaeth pan fyddan nhw’n teithio i Barc Inver, Larne, yng Ngogledd Iwerddon ar 15 Gorffennaf.

Bydd y gêm honno yn dechrau am 7:30yh.

Dundalk 4 – 0 Y Drenewydd

Y Drenewydd gafodd y noson waethaf o dimau Cymru heb os, gan golli 4-0 oddi cartref yn erbyn Dundalk.

Mae Dundalk, o Weriniaeth Iwerddon, wedi hen arfer â chystadlaethau Ewropeaidd, ac fe gyrhaeddon nhw’r grwpiau yng Nghynghrair Ewropa y llynedd.

Michael Duffy sgoriodd y gôl gyntaf i’r tîm cartref, a hynny ar ôl 34 munud.

Bum munud yn ddiweddarach, rhwydodd David McMillan i ddyblu mantais Dundalk.

Sgoriodd Will Patching y drydedd, cyn i Han Jeong-woo ddymchwel unrhyw obeithion oedd gan y Drenewydd gyda phedwaredd gôl y tîm cartref.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gyda’r gic gyntaf am 5:45yh.

Noson fawr i dimau Cymru yn Ewrop sy’n cwrso’r “Greal Sanctaidd”

Huw Bebb

Y Seintiau Newydd, Y Bala a’r Drenewydd yn cystadlu yng Nghyngres Ewropa, cystadleuaeth newydd sbon UEFA