Mae hi’n noson fawr i glybiau pêl-droed Cymru yn Ewrop heno (nos Iau, Gorffennaf 8), gyda’r Seintiau Newydd, y Bala a’r Drenewydd yn cystadlu yng Nghyngres Ewropa, cystadleuaeth newydd sbon UEFA.

Mae hi’n gystadleuaeth ar gyfer timau isaf Cynghrair Ewropa, sydd wedi gostwng o 48 i 32 o dimau yn y grwpiau eleni.

Does dim timau’n cymhwyso’n uniongyrchol i grwpiau Cyngres Ewropa, gyda deg tîm yn disgyn o Gynghrair Ewropa a’r gweddill yn dod drwy’r rowndiau rhagbrofol.

Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn ennill eu lle yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesaf, oni bai eu bod nhw’n cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr.

Glentoran FC v Y Seintiau Newydd

Bydd y Seintiau Newydd yn herio Glentoran FC – tîm o Belfast sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon – oddi cartref heno, gyda’r gic gyntaf am 6:45yh.

Methodd y Seintiau Newydd allan ar dlws y Cymru Premier ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf, gan fethu â chyrraedd Cynghrair y Pencampwyr am yr ail dymor yn olynol.

Ond mae’r Seintiau Newydd wedi cyflawni tipyn o gamp wrth iddyn nhw gystadlu yn Ewrop am yr 22ain tymor yn olynol.

Er i’r Seintiau guro Zilina yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Ewropa y tymor diwethaf, colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn B36 oedd hanes y clwb yn yr ail rownd ragbrofol.

Ar y llaw arall, mae Glentoran FC wedi chwarae 100 o gemau Ewropeaidd ym mhob cystadleuaeth, gan drechu cewri megis Arsenal a Basel ar hyd blynyddoedd.

Gorffennodd Glentoran yn drydydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon y tymor diwethaf.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar 15 Gorffennaf yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gyda’r gic gyntaf am 6:15yh.

Y Bala v Larne FC

Bydd y Bala yn croesawu Larne FC – sy’n chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes – i Faes Tegid heno, gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch.

Dyw’r gwrthwynebwyr ddim ond wedi bod yn ôl yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon ers dwy flynedd ar ôl ennill dyrchafiad yn 2019.

Gorffennon nhw’n bedwerydd y tymor diwethaf, un safle y tu ôl i Glentoran FC sy’n herio’r Seintiau Newydd.

Enillodd tîm Colin Caton rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf yn erbyn Valletta o ynys Melita.

Wedi’r canlyniad hwnnw, cawson nhw berfformiad arwrol yn erbyn cewri Gwlad Belg, Standard Liege, gyda’r Bala yn colli o 2-0.

Heb os, bydd y Bala yn gobeithio creu mwy o hanes yn Ewrop gyda buddugoliaeth heno.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar 15 Gorffennaf ym Mharc Inver, Larne, gyda’r gic gyntaf am 7:30yh.

Dundalk v Y Drenewydd

Y trydydd tîm o Gymru sy’n cystadlu yng Nghyngres Ewropa yw’r Drenewydd, a hynny ar ôl trechu Caernarfon o 5-3 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.

O ganlyniad mae tîm Chris Hughes yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf ers 2015 ac yn teithio i Barc Oriel i herio Dundalk.

Roedd yn rhediad cofiadwy i’r clwb y flwyddyn honno, gan gymhwyso ar gyfer yr ail rownd ragbrofol gyda buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Valletta o ynys Melita dros ddau gymal, cyn colli 5-1 dros ddau gymal yn erbyn cewri Denmarc, København.

Eleni, mae’r clwb yn herio Dundalk, wnaeth orffen yn drydydd yn Uwch Gynghrair Iwerddon.

Fe gyrhaeddodd Dundalk safleoedd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa’r tymor diwethaf, gan golli chwe gêm allan o chwech – yn erbyn Arsenal, Molde a Rapid Wien.

Bydd y gic gyntaf am 5:45yh heno, gyda’r ail gymal yn cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, a’r gic gyntaf am 5:45yh.

Cyngres Ewropa yn rhoi gwell siawns i dimau Cymru gymhwyso?

Ond a fydd y gystadleuaeth newydd yn rhoi gwell siawns i dimau Cymru gymhwyso?

“Bydd yn rhaid i ni aros i weld, mae e’n rhywbeth newydd a dw i ddim yn hollol siŵr a fydd e’n golygu mwy o gyfle i fynd drwyddo,” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.

“O edrych ar yr enwau sydd wedi dod allan o’r het eleni, ychydig yn gymysg yw e… maen nhw’n taro chi fel yr un math o dimau fydden nhw’n chwarae beth bynnag.

“Dw i’n deall pam maen nhw wedi cyflwyno fe (Cyngres Ewropa) ac os yw e’n golygu mwy o gyfle i dimau Cymru fynd yn bellach a chwarae mwy o gemau yn Ewrop, wel grêt.

“Ond hyd yn hyn, dw i ddim yn gweld lot fawr o wahaniaeth.

“Mae e’n ddiddorol eu bod nhw i gyd yn chwarae timau o Ogledd neu Weriniaeth Iwerddon.

“Rydych chi’n cymharu hynny gyda Cei Connah sy’n gorfod teithio i Armenia (yng Nghynghrair y Pencampwyr), mae’n dipyn o ffordd i deithio.”

Mae’n rhagweld y bydd canlyniadau’r timau o Gymru yn “gymysg”.

“Wrth edrych ar y timau y maen nhw’n eu herbyn, maen nhw’n gymysg… mae rhai o’r gemau yn anodd ac mae rhai yn haws,” meddai.

“Mae’r Bala wedi cael gêm y byddech chi’n gobeithio y gallan nhw ennill ac mae’r Drenewydd wedi cael gêm anodd dros ben yn erbyn Dundalk ac mae’r Seintiau yn erbyn Glentoran.

“Felly maen bosib y bydd y canlyniadau’n gymysg.”

Clybiau Cymru’n cwrso’r “Greal Sanctaidd”

Un peth y gallai clybiau Cymru fanteisio arno pe baen nhw’n cymhwyso i’r rowndiau olaf yw’r hwb ariannol sy’n dod gyda rhediad i’r grwpiau yn Ewrop, neu’r “Greal Sanctaidd”, yn ôl Dylan Ebenezer.

“Bydde fe’n anhygoel gweld tîm o Gymru yn cael rhediad… y Greal Sanctaidd o gyrraedd y grwpiau yn Ewrop.

“Rydyn ni wedi bod yn edrych arno fe bob tymor yn meddwl ‘all rhywun gymryd y cam yna’.

“Bydde fe’n gymaint o beth a bydde fe’n gwneud gymaint o wahaniaeth.

“Mae’r Seintiau wedi bod yn agos, ond dw i’n credu falle bydd Cyngres Ewropa yma’n help o ran hynny.

“Achos yng ngham olaf Cynghrair Ewropa a Chynghrair y Pencampwyr cyn cyrraedd y grwpiau, rydych chi’n dod yn erbyn timau fel Celtic neu Arsenal – beth bynnag rydych chi’n feddwl o’r rheiny y dyddiau yma.

“Ond maen nhw’n dimau hollol wahanol i’r rhai mae clybiau Cymru wedi arfer wynebu.

“Felly dw i’n gobeithio fawr y gallan nhw fynd yn agos eleni, achos dim ond un tymor da, un rhediad da, neu un draw caredig sydd ei angen a byddai’r arian sy’n dod â hynny yn gallu gweddnewid clwb.

“Pwy a ŵyr?”