Mae UEFA wedi cosbi Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl i laser gael ei anelu at lygaid Kasper Schmeichel, golwr Denmarc, yn ystod gêm gyn-derfynol Ewro 2020 yn Wembley neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 7).

Fe ddigwyddodd cyn i Schmeichel arbed cic o’r smotyn ddadleuol gan Harry Kane yn ystod amser ychwanegol.

Ond sgoriodd Kane wrth i’r bêl adlamu allan, ac roedd Lloegr yn fuddugol o 2-1 er mwyn sicrhau lle yn y ffeinal yn erbyn yr Eidal – yn Wembley eto – ddydd Sul (Gorffennaf 11).

Mae Lloegr wedi’u cyhuddo o “fethu â chadw trefn” wrth i’r cefnogwyr wneud sŵn byddarol a thanio tân gwyllt yn ystod anthem genedlaethol Denmarc.