Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi tri newid i’r tîm i herio’r Ariannin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Gorffennaf 10).

Daw Kieran Hardy i mewn yn fewnwr, tra bod Hallam Amos ac Owen Lane wedi’u dewis ar yr asgell gyda Jonah Holmes yn gefnwr yn absenoldeb Leigh Halfpenny.

Bydd Hardy yn cadw cwmni i Callum Sheedy yn safle’r haneri, tra bod Jonathan Davies a Uilisi Halaholo yn y canol.

Yr un yw’r pac, gyda Nicky Smith, Elliot Dee a Dillon Lewis yn y rheng flaen, gyda Ross Moriarty, James Botham ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl.

Ben Carter a Will Rowlands sy’n cwblhau’r tîm yn yr ail reng.

‘Y gwrthwynebwyr perffaith’

“Yr Ariannin yw’r gwrthwynebwyr perffaith i ni y penwythnos hwn, a dyma’r union brawf rydyn ni ei eisiau ar gyfer y grŵp hwn o chwaraewyr,” meddai Wayne Pivac.

“Byddwn ni’n cael ein profi yn y blaen a bydd yr elfen gorfforol ar lefel nad yw rhai o’r chwaraewyr hyn wedi’i brofi o’r blaen, ond bydd hynny’n ateb llawer o gwestiynau i ni wrth i ni adeiladu tuag at Gwpan Rygbi’r Byd 2023.

“Mae’n wych cael chwarae yng Nghaerdydd unwaith eto, ac rydyn ni eisiau chwarae rygbi gyffrous, a fydd yn cael y cefnogwyr ar eu traed.

“Mae’n addo bod yn achlysur gwych.”

Tîm Cymru

Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright; Kieran Hardy, Callum Sheedy, Owen Lane, Jonathan Davies (capten), Uilisi Halaholo, Jonah Holmes, Hallam Amos

Eilyddion

Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Tomos Williams, Jarrod Evans, Nick Tompkins