Mae Luke Rowe, y seiclwr o Gymru, allan o ras feics Tour de France ar ôl iddo fethu â chyrraedd y llinell derfyn mewn da bryd.
Gorffennodd e gymal 11 o’r ras ddydd Mercher (Gorffennaf 7) tua phum munud dros y terfyn amser, ac oddeutu 50 munud y tu ôl i enillydd y cymal, Wout van Aert.
Mae Rowe, sy’n 31 oed, yn wreiddiol o Gaerdydd, ac yn cystadlu yn ei seithfed Tour, ond dyma’r tro cyntaf iddo fethu â gorffen ras.
“Mae’n gamp greulon, a dyna realiti’r peth weithiau,” medd Rowe wrth ymateb i’r ras.
“Dw i’n gutted a dweud y gwir, ac mae’n anodd achos mai dyma’r tro cyntaf yn fy ngyrfa i fi fethu terfyn amser.
“Mae’n mynd i fod yn anodd gadael y bechgyn, a gadael dim ond saith ohonyn nhw ar ôl.”
Gweddill y ras
Roedd Mark Cavendish, sy’n gwisgo’r crys gwyrdd, yn ffodus i orffen cymal 11 mewn pryd hefyd, gan orffen o fewn trwch blewyn i’r terfyn amser.
Mae ganddo fe fantais o 58 pwynt ar hyn o bryd yn nosbarthiad y pwyntiau.
Mae’r gŵr o Ynys Manaw hefyd yn mynd am fuddugoliaeth rhif 34 yn y Tour de France, sef y record bresennol.
Mae Tadej Pogačar o Slofenia yn dal ei afael ar y crys melyn, er ei fod e wedi dangos gwendid wrth ddringo’r mynyddoedd ddoe.
Mae ganddo fe fantais o bum munud ac 18 eiliad dros yr ail safle, Rigoberto Uran.
Dydy Geraint Thomas ddim yn debygol o ennill y ras eleni, ond mae’n parhau i seiclo gweddill y ras i dîm INEOS.