Fe wnaeth Cei Connah, pencampwyr Cymru, lwyddo i frwydro’n ôl a sicrhau gêm gyfartal 2-2 yn erbyn FC Alashkert neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 7).

Sgoriodd Craig Curran i roi tîm Andy Morrison ar y blaen, cyn i bencampwyr Armenia unioni’r sgôr gyda gôl gan David Khurtsidze.

Aeth Khurtsidze yn ei flaen i sgorio ei ail cyn hanner amser i roi’r tîm oddi cartref ar y blaen.

Ond gyda 10 munud o’r gêm yn weddill, sgoriodd capten y Nomads, George Horan gôl i gadw gobeithion y clwb o gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn fyw.

Teuta Durres o Albania neu’r tîm o Moldova, Siryf Tiraspol, fydd yn herio’r enillwyr yn yr ail rownd ragbrofol.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar Orffennaf 14, gyda’r gic gyntaf yn Yerevan, Armenia am 4 o’r gloch.

Mae Cei Connah yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am yr ail dymor yn olynol, a dyma’r chweched tymor yn olynol i Andy Morrison arwain y clwb i Ewrop.

Colli 2-0 yn erbyn FK Sarajevo oedd hanes y clwb yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.

Ac os na fydd tîm Andy Morrison yn cyrraedd y rownd nesaf, byddan nhw’n cystadlu yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd sy’n cynnwys y Seintiau Newydd, Y Bala, a’r Drenewydd.

Cei Connah yn herio FC Alashkert yng Nghynghrair y Pencampwyr

Dyma’r chweched tymor yn olynol i Andy Morrison arwain y clwb i Ewrop