Mae Cei Connah, Pencampwyr Cymru, yn herio FC Alashkert, Pencampwyr Armenia, yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr heno (nos Fercher 7 Gorffennaf), gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch.

Bydd hi’n noson arbennig i’r clwb, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni.

Bydd modd gwylio’r gêm ar wasanaeth ffrydio InPlayer, gyda’r darllediad yn dechrau am 6:45 o’r gloch ac yn costio £10.

Mae’r gêm yn cael ei chynnal yng Nghoedlen y Parc, sef cae Aberystwyth.

Ac yn ôl Andy Morrison, rheolwr Cei Connah, mae hynny am ei fod eisiau gwneud siwrne’r ymwelwyr mor anodd ag sy’n bosib!

Bydd nifer cyfyngedig o gefnogwyr yn cael mynychu’r gêm.

Mae’r ail gymal yn cael ei chwarae ar 14 Gorffennaf, am 4 o’r gloch yn Yerevan, Armenia.

Cei Connah yn Ewrop eto

Mae Cei Connah yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am yr ail dymor yn olynol a dyma’r chweched tymor yn olynol i Andy Morrison arwain y clwb i Ewrop.

Colli 0-2 yn erbyn FK Sarajevo oedd hanes Cei Connah yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.

Ac os na fydd tîm Andy Morrison yn cymhwyso i’r rownd nesaf, byddan nhw’n mynd ymlaen i gystadlu yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd lle mae’r Seintiau Newydd, Y Bala, a’r Drenewydd yn cystadlu.

Cipolwg ar FC Alashkert

Mae FC Alashkert wedi ennill Uwchgynghrair Armenia bedair gwaith, yn fwyaf diweddar y tymor diwethaf.

Maen nhw hefyd wedi ennill Cwpan Armenia ar un achlysur yn nhymor 2018-19.

Colli o 6-0 yn erbyn Celtic dros ddau gymal oedd eu hanes y tro diwethaf iddyn nhw gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ers hynny mae’r clwb wedi cystadlu yng Nghynghrair Ewropa, gan gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn haf 2019.

“Ceisio dod o hyd i wendid”

Mae Andy Morrison yn rhagweld gêm anodd i’w chwaraewyr yn erbyn FC Alashkert.

“Rydyn ni’n chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr llawer gwell na ni, beth bynnag sy’n cael ei ddweud a’i wneud,” meddai cyn-gapten Manchester City wrth BBC Sport Wales.

“Cawsom bencampwyr Bosnia’r llynedd gyda hanner dwsin chwaraewyr tîm cenedlaethol Bosnia a dros ddwsin o chwaraewyr rhyngwladol yn eu carfan.

“Roedd yno lawer o bethau wnes i fwynhau a llawer o bethau wnes i ddysgu o hynny.

“Mae’n her gweld sut rydyn ni’n cystadlu yn eu herbyn ac yn llunio cynllun i achosi problemau iddyn nhw ac i geisio dod o hyd i wendid yn y ffordd maen nhw’n chwarae, manteisio ar hynny ac aros yn y gêm mor hir ag y gallwn ni.”