Mae tîm criced Morgannwg dan bwysau ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove.

Tarodd Ali Orr hanner canred di-guro (54) yn ei ail gêm dosbarth cyntaf i’r sir wrth i’w dîm daro’n ôl ar ddiwrnod a gafodd ei gwtogi’n sylweddol o ganlyniad i’r tywydd.

Roedd gan Sussex flaenoriaeth o ddim ond 11 o rediadau ar ddiwedd y batiad cyntaf, ond roedden nhw’n 19 am dair yn eu hail fatiad yn fuan ar ôl i’r gêm ailddechrau am 4 o’r gloch heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 6).

Cipiodd Michael Hogan wiced ei gydwladwr o Awstralia, Travis Head, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am bump wrth i’r bowliwr cyflym ildio dim ond wyth rhediad mewn naw pelawd, tra bod yr Iseldirwr wedi gwaredu Aaron Thomason, a gafodd ei ddal gan Cooke hefyd, a Stiaan van Zyl, gyda’r bowliwr yn taro’i goes o flaen y wiced heb sgorio.

Ond ychwanegodd Orr ac Oli Carter, sy’n chwarae i’r sir am y tro cyntaf, gyfanswm o 43, cyn i Orr a’r capten Ben Brown ychwanegu 49 wrth i Sussex gyrraedd 11 am bedair, sy’n fantais o 122 gyda chwe wiced o’r ail batiad yn weddill.

Manylion y dydd

Roedd cryn dipyn o waith sychu’r cae i’w wneud cyn bod unrhyw griced yn bosib, a doedd hi ddim yn hir cyn i Sussex gipio wiced olaf batiad cyntaf Morgannwg, gyda Michael Hogan wedi’i fowlio gan y troellwr Jack Carson am 11.

Wrth i Sussex ddechrau eu hail fatiad, collon nhw ddwy wiced mewn dwy belen gan Timm van der Gugten yn yr wythfed pelawd.

Cafodd Aaron Thomason ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar belen uchel cyn i’r bowliwr daro coes Stiaan van Zyl o flaen y wiced i adael Sussex yn ddeg am ddwy.

Er i Travis Head atal yr hatric, fe gafodd ei ddal gan y wicedwr i adael ei dîm yn 19 am dair.

Cafodd Carter ei ddal gan y troellwr Andrew Salter oddi ar ei fowlio’i hun am 22 fel bod Sussex yn 62 am bedair.

Cyrhaeddodd Orr ei hannner canred oddi ar 105 o belenni wrth iddo fe daro saith pedwar.

Sussex yn taro’n ôl yn erbyn Morgannwg

Hanner canred i’r chwaraewr 16 oed Dan Ibrahim – a chael a chael yw hi hanner ffordd trwy’r gêm
Timm van der Gugten

Diwrnod cyntaf llwyddiannus i Forgannwg yn Hove

Saith wiced wedi cwympo wrth i Sussex sgorio dim ond 161

Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth unwaith eto

Taith i Hove i herio Sussex heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 4)