Ar ôl ymgyrch siomedig yn y gemau ugain pelawd yn ddiweddar, mae tîm criced Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth unwaith eto wrth deithio i Hove i wynebu Sussex mewn gêm pedwar diwrnod sy’n dechrau heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 4).

Mae Colin Ingram wedi’i gynnwys yn y garfan, ac yntau heb chwarae yn y fformat hir ers 2017.

Mae’r troellwr Sam Pearce o Gaerdydd, sy’n chwarae i dîm UCCE Caerdydd ac yn gapten ar Sir Genedlaethol Cymru, hefyd wedi’i enwi yn y garfan ac fe allai chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir ar ôl chwarae yn y Vitality Blast yn ddiweddar.

Mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten hefyd yn ôl yn y garfan ar ôl dychwelyd o ddyletswydd ryngwladol.

Mae Nick Selman allan o hyd ar ôl cael Covid-19, ac mae’r ddau Awstraliad, Marnus Labuschagne a Michael Neser, yn hunanynysu tan ganol nos heno (nos Sul, Gorffennaf 4) ar ôl dod i gysylltiad â’r batiwr sydd hefyd yn enedigol o Awstralia.

Mae sawl un o chwaraewyr Sussex allan oherwydd Covid-19 hefyd, ac mae disgwyl i’r troellwr coes 16 oed Archie Lenham, oedd wedi serennu yn erbyn Morgannwg yn y Vitality Blast yr wythnos hon, gael ei gynnwys yn y tîm am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth.

Beth yw sefyllfa’r gystadleuaeth?

Gyda’r Bencampwriaeth ar ei newydd wedd eleni yn sgil Covid-19, mae Morgannwg yn bedwerydd yng Ngrŵp 3 ac mae ganddyn nhw lygedyn o obaith o orffen ymhlith y ddau safle uchaf er mwyn cael dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Byddai buddugoliaeth bron iawn yn sicrhau eu lle yn yr Ail Adran yn rhan ola’r tymor.

Mae Morgannwg yn ddi-guro yn eu pum gêm diwethaf, gyda buddugoliaethau dros Gaint a Swydd Gaerhirfryn, a gemau cyfartal yn erbyn Caint, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.

Mae Sussex ar waelod y tabl, 28 pwynt y tu ôl i Forgannwg, gyda’u hunig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd wrth i Ollie Robinson gipio 13 wiced i ennill ei le yng ngharfan Lloegr cyn yr helynt yn ymwneud â’i sylwadau hiliol a rhywiaethol ar hen negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Carfan Sussex: B Brown (capten), W Beer, J Carson, O Carter, M Claydon, T Head, D Ibrahim, A Lenham, S Meaker, A Orr, J Sarro, A Thomason, S van Zyl

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, J Cooke, D Douthwaite, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, B Root, S Pearce, A Salter, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell

Sgorfwrdd

Gwyliwch yn fyw