Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud bod gan y garfan nifer o bethau i weithio arnyn nhw cyn wynebu’r Ariannin ddwywaith yng Nghaerdydd dros yr wythnosau nesaf.

Fe wnaethon nhw guro Canada yn gyfforddus o 68-12 yn eu gêm haf gyntaf ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3), ond bydd yr Ariannin yn gryfach o lawer ac yn cynnig her o fath gwahanol.

Roedd nifer o wynebau newydd yn y tîm, gan gynnwys yr eilydd Taine Basham a ddaeth i’r cae a sgorio dau gais.

Ond roedd siom hefyd wrth golli Leigh Halfpenny ar ôl i’r cefnwr gael anaf i’w ben-glin, sy’n ymddangos yn ddifrifol, o fewn dwy funud o’i ganfed gêm ryngwladol.

Mae Cymru wedi curo’r Ariannin yn eu pedair gêm ddiwethaf yn eu herbyn, ond roedd yr Ariannin hefyd wedi curo Seland Newydd ac wedi cael dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstralia y llynedd.

“Rhaid i chi barchu’r tîm hwnnw,” meddai Wayne Pivac am yr Ariannin.

“Maen nhw’n genedl Haen Un ddifrifol nawr a chael tîm ifanc yn mynd yn erbyn tîm o’r fath yw’r union beth sydd ei angen arnom ni.

“Bydd yn dangos iddyn nhw faint o waith caled sydd angen iddyn nhw ei wneud os ydyn nhw am chwarae ar y lefel yma’n rheolaidd.

“Mae angen i ni gamu i fyny ar draws ein gêm gyfan, mewn gwirionedd.

“Mae [y gêm yn erbyn Canada] wedi tynnu ein sylw at nifer o bethau y byddwn ni’n mynd i ffwrdd i weithio arnyn nhw.

“Bydd yn brawf i ni drwyddi draw.”