Mae tîm criced Morgannwg wedi cael diwrnod cyntaf llwyddiannus yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove, gyda’r tîm cartref yn 161 am saith yn eu batiad cyntaf.

Cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten dair wiced am 26 mewn 14 o belawdau, gyda Michael Hogan yn cipio dwy wiced am 33 mewn 15 o belawdau.

Roedd wiced yr un hefyd i Dan Douthwaite a James Weighell wrth i Forgannwg roi’r Saeson dan bwysau ar eu tomen eu hunain.

Tarodd Sussex yn ôl rywfaint erbyn diwedd y dydd ar ôl bod yn 96 am chwech wrth i Danial Ibrahim, batiwr 16 oed oedd yn 41 heb fod allan, a Will Beer (19) ddod ynghyd i adeiladu partneriaeth o 65 cyn i Beer golli ei wiced oddi ar belen ola’r dydd.

Manylion

Mae wyth o chwaraewyr Sussex, gan gynnwys ambell un o’r prif chwaraewyr, yn hunanynysu oherwydd Covid-19 ac mae Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, a Chris Jordan allan ag anafiadau.

Roedd hynny’n golygu cyfleoedd i rai o’r to iau, tra bod Morgannwg wedi croesawu Colin Ingram yn ôl i’r Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 2017, a van der Gugten hefyd yn dychwelyd i’r tîm, tra bod yr Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser yn hunanynysu fel cysylltiadau agos i Nick Selman, sydd â Covid-19.

Fe wnaeth Sussex benderfyniad annisgwyl wrth ddewis batio ar ôl galw’n gywir, ac fe wnaeth Morgannwg fanteisio ar amodau da o’r dechrau’n deg pan oedd hi’n bosib chwarae am 2.25yp yn dilyn bore o law.

Collon nhw eu wiced gyntaf oddi ar belen ola’r ail belawd pan gafodd Aaron Thomason ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio van der Gugten am bedwar.

Gadawodd y chwaraewyr y cae ar ôl 13 o belenni yn sgil cawod o law ac unwaith eto ar ôl 11.3 o belawdau, gyda Sussex yn 23 am ddwy ar ôl i Stiaan van Zyl gael ei fowlio gan Michael Hogan am bump mewn tywyllwch.

Sgoriodd Ali Orr bedwar yn unig oddi ar 35 o belenni cyn i van der Gugten daro’i goes o flaen y wiced, ac roedd Sussex yn 34 am bedair pan darodd James Weighell goes Oli Carter am dri.

Adeiladodd Ben Brown a Travis Head bartneriaeth o 41 mewn naw pelawd cyn i Brown gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 22 cyn te.

Tarodd van der Gugten goes Head am 47 wedi’r egwyl, ar ôl i’r batiwr daro wyth pedwar, ac fe gerddodd y batiwr oddi ar y cae cyn aros am benderfyniad gan y dyfarnwr, â’i dîm yn 96 am chwech.

Ond fe wnaeth Ibrahim a Beer sicrhau wedyn bod eu tîm yn cyrraedd sgôr parchus erbyn diwedd y dydd, a bydd Morgannwg yn gobeithio cau pen y mwdwl ar y batiad yn gynnar ar yr ail fore.

Morgannwg yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth unwaith eto

Taith i Hove i herio Sussex heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 4)