Mae Josh Adams, y Cymro sydd eisoes wedi serennu ar yr asgell i’r Llewod, wedi cymharu’r cyfrifoldeb o sgorio ceisiau â dyletswydd ymosodwr pêl-droed i sgorio goliau.
Yn ystod y gêm gyntaf yn Ne Affrica yn erbyn y Sigma Lions, wrth i’r Llewod ennill o 56-14, sgoriodd Adams bedwar cais i fynd gyda’i gais yn erbyn Japan mewn gêm baratoadol yn yr Alban.
Mae disgwyl i’r gyfres brawf fod yn un gorfforol, ac mae Adams yn ffefryn i ddechrau ar yr asgell, er bod sawl un arall yn cystadlu am y crys, gan gynnwys ei gydwladwr Louis Rees-Zammit, y Sais Anthony Watson, a’r Albanwr Duhan Van Der Merwe.
Mae’r gêm brawf gyntaf ar Orffennaf 24.
“Mae asgellwr fel ymosodwr pêl-droed,” meddai Adams.
“Fy ngwaith i yw sgorio ceisiau, fel mai eu rôl nhw yw sgorio goliau.
“Mae yna elfennau eraill o’r gêm sy’n hanfodol bwysig, ond unwaith gewch chi redeg, rydych chi’n gweithio mor galed ag y gallwch chi i gadw i fynd.
“Doedd dim rhaid i fi wneud llawer ar gyfer un neu ddau, ond dyna sut mae hi’n mynd, rhaid i chi fod yn y lle cywir ar yr adeg gywir, am wn i.
“Cyhyd â’ch bod chi’n gweithio’n galed, yn cadw eich pen i lawr ac yn parhau i wneud yr hyn sy’n ofynnol, yna gall pethau da ddigwydd ar gefn hynny.”
Cystadleuaeth
Gyda llai o amser nag arfer i greu argraff ar y dewiswyr, mae Josh Adams yn benderfynol o fanteisio ar y cyfleoedd prin a ddaw.
“Mae hon yn daith fyrrach gyda llai o gemau paratoadol, felly mae’n rhaid i chi gymryd y cyfle pan ddaw, ac mae pob cyfle gewch chi’n gyfle i wneud datganiad, felly rhaid i chi ei gymryd.
“Mae nifer o gemau i ddod.
“Mae bois eraill â digon o gyfleoedd eraill, ond allwch chi ddim ond gwneud yr hyn allwch chi pan gewch chi’r cyfle.”