Mae’r chwaraewr ail reng Adam Beard a’r blaenasgellwr Josh Navidi wedi’u henwi yn nhîm y Llewod am y tro cyntaf, wrth iddyn nhw herio’r Sharks yn Johannesburg ddydd Mercher (Gorffennaf 7).

Mae’r ddau yn eilyddion yn y garfan yn dilyn yr anafiadau i gapten y daith, Alun Wyn Jones, a Chymro arall, y blaenasgellwr Justin Tipuric.

Dau Gymro yw’r haneri, sef y mewnwr Gareth Davies a’r maswr Dan Biggar.

Mae’r bachwr Ken Owens ar y fainc.

Y Gwyddel Iain Henderson fydd yn arwain y tîm, gyda’r Saeson Tom Curry a Sam Simmonds hefyd yn chwarae i’r tîm am y tro cyntaf, a hynny yn y rheng ôl gyda Navidi.

Mae Conor Murray, capten newydd y daith, ymhlith yr eilyddion.

Bydd y Llewod yn gobeithio cynnal eu record 100% ar y daith, ar ôl iddyn nhw drechu’r Sigma Lions o 56-14 yn eu gêm gyntaf dros y penwythnos.

Y tîm: Williams, Watson, Daly, Aki, Van der Merwe, Biggar, Davies; Vunipola, Cowan-Dickie, Fagerson, Henderson (capten), Beard, Navidi, Curry, Simmonds.

Eilyddion: Owens, Sutherland, Furlong, Beirne, Conan, Murray, Hogg, Harris.