Mae Gemma Evans, amddiffynnwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi ymuno â Reading ar drosglwyddiad am ddim.

Mae’r chwaraewr 24 oed wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd ar ôl i gyfnod o dair blynedd gyda Bristol City – a ddisgynnodd o’r Women’s Super League y tymor diwethaf – ddod i ben.

Dechreuodd Evans ei gyrfa gyda Chaerdydd cyn ymuno â Yeovil yn 2017.

Chwaraeodd hi dros Gymru am y tro cyntaf yn 2016 ac mae hi bellach wedi ennill 30 o gapiau dros ei gwlad.

Mae hi’n ymuno â chwaraewyr Cymru Natasha Harding, Rachel Rowe, Bethan Roberts a Lily Woodham sydd eisoes yn chwarae i Reading.

“Rydw i’n falch iawn o allu dod â Gemma i Reading,” meddai Kelly Chambers, rheolwr Reading, wrth wefan y clwb.

“Mae hi’n chwaraewr a fydd yn gweddu’r ffordd rydyn ni’n chwarae yn fy marn i.

“Mae hi wedi dangos datblygiad gwych dros yr ychydig dymhorau diwethaf ac yn bwysicach na hynny mae hi’n perfformio’n gyson.

“Mae hi’n chwaraewr sy’n gweithio’n galed ac sy’n awyddus i ddysgu a gwella a does gen i ddim amheuaeth y byddwn, yn yr amgylchedd hwn, yn gweld chwaraewr gwell fyth.”