Mewn oes lle mae gwleidyddiaeth yn tueddu i wneud pobol yn anhapus, pa bynnag ochr o’r sbectrwm gwleidyddol ydych chi, mae angen seibiant weithiau i gymryd golwg sy’n fwy Have I Got News for You na Newsnight.

Dewch i ni edrych ar wythnos pan wnaeth Delyth Jewell estyn rhosyn i Vaughan Gething, ac Alun Davies yn rhoi ei ben yn ei ddwylo wrth wrando ar Aelod o’i blaid ei hun


Rhosyn, neu ddraenen yn ystlys y Prif Weinidog?

Dechreuodd yr wythnos gydag un o’r achlysuron mwyaf crinj sydd wedi’i weld ar lawr y Senedd. Wrth ddyfynnu’r bardd Americanaidd James Oppenheim, cynigiodd Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, rodd o rosyn i’r Prif Weinidog Vaughan Gething i’w atgoffa am bwysigrwydd y celfyddydau yng Nghymru.

Wrth godi’i aeliau tua’r to, atebodd Vaughan Gething, “Diolch am gynnig blodyn i fi. Dw i ddim yn gwbl siŵr a fydd e’n cael ei groesawu adre!”


Palu am atebion… neu balu twll?

Ar ôl helynt y rhosyn, byddai modd maddau i rywun am feddwl bod y sioe barodi ar ben am wythnos arall… ond na!

Yn ystod dadl ar roddion dderbyniodd Vaughan Gething ar gyfer ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru, roedd Alun Davies yn syfrdan wrth wrando ar ei gyd-aelod Hefin David yn ceisio amddiffyn y Prif Weinidog.

“Dw i ddim am dderbyn ymyrraeth, Llywydd,” meddai Hefin David.

“Dw i â’r ddwy ochr yn gweiddi arna’ i – am wneud pwyntiau rhesymol!”

Dyna Alun Davies wedyn yn rhoi ei ben yn ei ddwylo…


O’r archif

Felly, beth am i ni edrych drwy ychydig bach o hanes parodi yn y Senedd – pwnc, dw i’n siŵr, sydd yn haeddu mwy o ymchwil academaidd…

“Be ff** sy’n bod” ar Jenny Rathbone?

Efallai mai eiliad fwyaf drwg-enwog y cyfnod clo o safbwynt coc-yps gwleidyddol (sy’n adrodd cyfrolau o edrych ar bethau oedd yn digwydd ar draws y ffin!) oedd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi ar y pryd, yn anghofio bod botwm ‘Mute‘ i’w gael ar Zoom!

Wrth siarad am Jenny Rathbone, ei gyd-Aelod Llafur, gofynnodd “Be’ ff** sy’n bod” arni.

Yn y cefndir, roedd modd gweld rhai o gymeriadau’r blynyddoedd a fu – Neil McEvoy a Neil Hamilton yn eu plith – yn chwerthin tra bod Jenny Rathbone yn aros yn ddistaw a’r Llywydd Elin Jones yn gorchymyn Vaughan Gething i ddiffodd ei feicroffôn.


Mark Drakeford, Andrew RT Davies a’r llaw uchaf foesegol

Mae Mark Drakeford ac Andrew RT Davies wedi hen arfer â chyrraedd y berwbwynt geiriol.

Ond mae’n siŵr mai’r enghraifft orau o hyn ar lawr y Senedd oedd y digwyddiad fis Hydref 2022, wrth i Drakeford yn ymateb i gwestiwn gan Andrew RT Davies am berfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Roedd y Prif Weinidog i’w weld yn gweiddi, yn crynu ac yn edrych yn syth i fyw llygaid arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig – a bron iddo luchio’i ffeil oddi ar y stondin ar draws y llawr.

“Ac rydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu dod yma prynhawn yma a hawlio rhyw fath o law uchaf foesol. Pa fath o fyd ydych chi’n perthyn iddo?


Leanne Wood a Mrs Windsor

Ac yn olaf, Leanne Wood yn galw Mrs Windsor ar y ddiweddar Frenhines Elizabeth.

Yn yr wythnosau yn dilyn agor Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, yn ystod dadl yn yr hen Siambr, cyfeiriodd yr Aelod Plaid Cymru at y Frenhines Elizabeth yn ôl ei chyfenw.

Ar ôl i’r mater gael ei godi gan Leighton Andrews, yr Aelod Llafur, mynnodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd ar y pryd, fod yn rhaid iddi dynnu’r sylw yn ôl oddi ar gofnod y Senedd.

Ond dal ei thir wnaeth Ms Wood.

Ar ôl iddi wrthod tynnu’r sylw yn ôl, gorchmynnodd y Llywydd fod yn rhaid iddi adael y Siambr am weddill y dydd. Wrth iddi adael y Siambr, roedd modd gweld undod Plaid Cymru ar waith, gydag aelodau o’r meinciau cefn yn dewis gadael efo hi.


Wrth i’r byd ddod yn fwyfwy digidol, mae hen ddigon o gynnwys deniadol ar gyfer y sioe ddychan Have I Got News for You? yn y Gymraeg fel bod creu rhaglen o’r fath yn dod yn nes at realiti bob dydd…