Doedd gweithredoedd Heddlu’r De ddim wedi cyfrannu at farwolaeth dyn o Gaerdydd yn 2021, yn ôl ymchwiliad.
Bu farw Mohamud Hassan yn 2021, ac mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi bod yn cynnal ymchwiliad i geisio canfod a oedd yr heddlu wedi achosi neu chwarae rhan yn ei farwolaeth.
Yn ôl yr ymchwiliad, doedd e ddim wedi cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei hil a doedd yr heddlu ddim wedi ymosod arno.
Daw canlyniad yr ymchwiliad yn dilyn cwest i’w farwolaeth, gyda rheithfarn agored wedi’i chofnodi.
Bu farw Mohamud Hassan ychydig oriau ar ôl gadael y ddalfa, ac yntau wedi’i arestio er mwyn adfer heddwch yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yn y brifddinas fis Ionawr 2021.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n “gobeithio bod atebion wedi’u darparu i’r cwestiynau niferus sydd wedi’u codi”.