Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod rheolau Boris Johnson wedi cael eu “gorfodi” arno fe ei hun wrth fwrw ei bleidlais.

Cafodd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ei atal rhag pleidleisio yn etholiadau lleol Lloegr, ar ôl iddo fe gyrraedd yr orsaf bleidleisio heb gerdyn adnabod ffotograffig – rheol roedd ei lywodraeth e ei hun wedi’i chyflwyno pan oedd e wrth y llyw.

Yn ôl Deddf Etholiadau 2022, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno pleidleisio fynd â cherdyn adnabod ffotograffig gyda nhw i’r orsaf bleidleisio.

Ond doedd dim cerdyn ID derbyniol ganddo fe pan aeth e i orsaf yn ne Swydd Rydychen i bleidleisio ar gyfer Comisiynydd Thames Valley.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd, roedd y “pechadur o gyn-Brif Weinidog wedi’i atal gan ei reolau ei hun i dwyllo pleidleisiau”.