Mae ystâd newydd yn Wrecsam sydd yn cael ei hadeiladu fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol, ac a fydd yn cael effaith ar ysgol uwchradd Gymraeg yno, wedi cael ei beirniadu am na fydd yn fforddiadwy i bobol leol.

Wrth siarad â golwg360, mae cynghorydd Plaid Cymru wedi beirniadu cynlluniau i adeiladu ystâd dai newydd fel cynllun sydd am ddod â budd i ddatblygwyr yn unig, ac nid i’r ardal leol.

Mae’r cynlluniau wedi dod fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol.

Fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Cyngor Wrecsam fabwysiadau’r cynlluniau ar ôl wyth mis, er eu bod nhw wedi cael eu gwrthod ddwywaith o’r blaen.

Mabwysiadu’r cynllun neu gyfnod o garchar

Ar ôl y ddwy bleidlais fis Ebrill a Mehefin y llynedd, dywedodd y llysoedd y dylid pasio’r cynllun, neu fe allai cynghorwyr wynebu cyfnod o garchar.

Wrth edrych yn ôl ar y bleidlais, dywed Carrie Harper, sy’n gynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam, fod y cyfnod hwn wedi bod yn un “anodd” i gynghorwyr.

“Y dewis oedd, rydym un ai yn pleidleisio ar gyfer cynllun tai sydd yn mynd i roi miliynau o bunnoedd i ddatblygwyr, neu bleidleisio gyda’n cydwybod, sef, yn y bôn, ein swydd ni.

“Ond roedd hyn hefyd yn golygu mynd i’r carchar.

“Yn y diwedd, dewisodd Grŵp Plaid Cymru wneud ein cais, ac wedyn cerdded allan o’r cyfarfod oherwydd doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni’n rhan o unrhyw broses ddemocrataidd.”

Dim digon o seilwaith i ymdopi

Mae gwrthwynebiad Plaid Cymru yn deillio o’r ffaith nad oes digon o seilwaith i gefnogi’r 1,680 o dai newydd fydd yn dod gyda’r prosiect yn ei gyfanrwydd.

Mae Wrecsam.news yn adrodd bod cais ar gyfer 600 o dai wedi’i gyflwyno gan Barratt and Bloor Homes ar gyfer safle sydd i’r de o Stryd Holt, gyda grŵp Harworth yn cychwyn ymgynghoriad ar gyfer 900 yn rhagor o dai i’r de o’r safle tuag at Ysgol Morgan Llwyd a’r clwb rygbi.

“Does yna ddim cynllun yn nhermau seilwaith efo iechyd, megis meddygon teulu,” meddai Carrie Harper wedyn.

“Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, os ydi pobol yn brwydro yn barod i gael gweld meddygon teulu, sut mae hyn yn mynd i edrych gyda 1,700 tŷ arall?

“Does neb o’r llywodraeth wedi medru ateb y cwestiwn yma unwaith.

“Does yna ddim tystiolaeth i gefnogi bod yr ardal yn gallu ymdopi efo cymaint o bobol.

“Y broblem efo’r cynllun ydi’i fod o’n ormodol yn nhermau nifer y tai, ac yn rhoi cynllunwyr tai uwchlaw tai fforddiadwy i bobol leol.”

Caeau Ysgol Morgan Llwyd

Yn rhan o’r cynlluniau, mae caeau sydd ar hyn o bryd dan berchnogaeth Ysgol Morgan Llwyd ar gyfer Addysg Gorfforol mewn perygl o gael eu defnyddio fel tir ar gyfer y tai.

Gan fod y caeau yn cael eu rhoi ar les i’r ysgol, does dim byd yn rhwystro’r cynlluniau rhag mynd rhagddynt.

“Dw i’n teimlo bod y cynllun i gyd yn ymwneud â datblygwyr tai yn gwneud mwy o arian,” meddai Carrie Harper wedyn.

“Mae’r un peth yn digwydd yn Sir y Fflint, ac mae pawb, gan gynnwys fi, yn disgrifio’r hyn sydd yn digwydd ar draws gogledd-ddwyrain Cymru fel bod o’n cael ei werthu fel ‘Sir Gaer, ond yn rhatach’.”