Bydd un o gyn-Brif Weinidogion Cymru’n trafod dyfodol cyfansoddiadol y wlad, mewn sgwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd y mis yma.
Bydd Dr Anwen Elias, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru y brifysgol yn holi Carwyn Jones am waith ac argymhellion adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y ddau yn craffu ar y gwersi sydd i’w dysgu o ymdriniaeth y Comisiwn o faterion cyfansoddiadol, yn ogystal â’r camau nesaf.
Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ar Gampws Penglais ar ddydd Llun, Mai 13.
Mae’n cael ei chynnal ar y cyd gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru’r brifysgol, a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd lluniaeth am 6 o’r gloch, gyda’r drafodaeth a chyfle i ofyn cwestiynau am 6.30yh.
Mae modd archebu tocyn rhad ac am ddim ar y wefan docynnau.
“Mae llawer o drafod wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai Dr Anwen Elias, sydd hefyd yn aelod o’r Comisiwn.
“Dyma gyfle i bwyso a mesur gwahanol gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol ac ystyried beth – os unrhyw beth – allai newid ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.”