Bydd disgwyl i ffoaduriaid ddysgu Gwyddeleg ar ôl cyrraedd Iwerddon, yn ôl cynllun gafodd ei lansio’r wythnos hon.

Y nod yw helpu ffoaduriaid i ymgartrefu yn eu cymunedau newydd, medd adroddiadau yn y wasg yn Iwerddon.

Cafodd y cynllun, Céad Míle Fáilte (Can Mil Croeso), sy’n cael ei arwain gan fudiad Conradh na Gaeilge, ei lansio gan Thomas Byrne, Gweinidog y Gaeltacht – neu gadarnle’r Wyddeleg – yn Nulyn.

Bydd newydd-ddyfodiaid yn cael gwersi ffurfiol mewn dosbarthiadau a gweithdai, gyda’r bwriad o’u helpu nhw i ddysgu a defnyddio’r iaith.

Gobaith Conradh na Gaeilge yw y bydd y gwersi’n helpu i feithrin ymdeimlad o hunaniaeth Wyddeleg a Gwyddelig.

Dywed Thomas Byrne fod pwyslais ar ddysgu Saesneg wrth gyrraedd gwlad arall, ond fod yna fwriad gan Lywodraeth Iwerddon i ddangos “pa mor ganolog yw’r Wyddeleg i’n diwylliant a’n hunaniaeth”.

Y nod yw cyrraedd mwy na 2,000 o bobol, y bydd mwy na 700 o bobol yn dal i ddilyn y cwrs erbyn y flwyddyn nesaf, ac y bydd 1,300 o bobol yn parhau i gymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau eraill.

Yn ôl Conradh na Gaeilge, maen nhw’n awyddus i gyrraedd pobol ar gyrion cymdeithas yn Iwerddon.