Mae’n debygol mai John Swinney fydd yn ennill cystadleuaeth fewnol yr SNP i fod yn arweinydd nesa’r blaid, ar ôl i Kate Forbes gadarnhau nad yw hi am sefyll i olynu Humza Yousaf.
Fore heddiw (dydd Iau, Mai 2), cyhoeddodd John Swinney, cyn-arweinydd yr SNP, ei fod am geisio dod yn arweinydd y blaid unwaith eto, ac o bosib yn Brif Weinidog nesa’r Alban.
Ar ôl i Humza Yousaf gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo yn sgil digwyddiadau yn dilyn terfyniad Cytundeb Tŷ Bute, fe fu’r blaid yn edrych yn fewnol am aelodau fyddai’n barod i dderbyn y dasg o roi trefn ar sefyllfa ansicr yn Holyrood.
“Rwy’n cadarnhau fy mod yn bwriadu sefyll i gael fy ethol i fod yn arweinydd yr SNP,” meddai John Swinney wrth siarad mewn neuadd gymunedol yng Nghaeredin.
“Dw i eisiau adeiladu ar waith Llywodraeth yr SNP o greu Alban sydd yn fodern, yn amrywiol a deinamig, fydd yn sicrhau cyfleoedd i bob un o ddinasyddion y wlad.
“Dw i eisiau uno’r SNP, ac uno’r Alban ar gyfer annibyniaeth.
“Dim ond yr SNP sydd yn gallu sefyll lle mae’r rhan fwyaf o bobol eisiau i’w llywodraeth fod – i’r chwith o ganol cymhedrol gwleidyddiaeth yr Alban.
“Dyma lle fydda i’n sefyll os ydw i’n cael fy ethol gan fy mhlaid a’r senedd.
“Yn Brif Weinidog, bydd fy mhrif amcanion yn dod yn syth o’r traddodiad canol-chwith hwnnw – mynd ar drywydd twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol.”
Kate Forbes allan o’r ornest
Roedd adroddiadau ddoe (dydd Mercher, Mai 1) fod Kate Forbes hefyd am ymuno â’r ornest arweinyddol.
Ond ar X (Twitter gynt) heddiw, mae hi wedi cyhoeddi nad yw hi am sefyll i fod yn arweinydd yr SNP.
Dywed ei bod hi’n galonogol clywed addewid John Swinney i ymgyrchu i adfer ymdeimlad o gwrteisi ac urddas yn y “ffordd rydym yn cynnal ein hunain fel plaid ac fel senedd”.
“Rwy’ hefyd wedi cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol ag o i drafod dyfodol ein plaid a’n gwlad,” meddai Kate Forbes.
“Mi roedd y trafodaethau hyn am ddyfodol yr SNP a’n gweledigaeth i’r Alban yn onest ac yn adeiladol.
“Yr hyn ddaeth i’r amlwg oedd ein bod yn rhannu pwrpas cyffredin pwerus i’r wlad.
“Bydd John, felly, yn derbyn fy nghefnogaeth a chymeradwyaeth mewn unrhyw ymgyrch sy’n dilyn.”
Polareiddio
Fe fu Kate Forbes yn ffigwr sy’n hollti barn ac yn polareiddio’r Alban ers yr etholiad arweinyddol y flwyddyn ddiwethaf, ar ôl i Nicola Sturgeon ymddiswyddo.
Yn y gorffennol, mae hi wedi dweud na fyddai wedi pleidleisio o blaid cyfreithlonni priodasau hoyw yn 2014, a hynny am fod y polisi’n gwrthdaro â’i ffydd fel aelod o Eglwys Rydd Efengylaidd yr Alban.
Mae’n ymddangos bod John Swinney eisoes wedi cychwyn y gwaith o uno’r blaid, drwy addo y byddai’n sicrhau bod lle i Kate Forbes yn y llywodraeth pe bai’n cael ei ethol.
Mae swyddogion yr SNP wedi cadarnhau bod enwebiadau’n cau ddydd Llun (Mai 6), ond yn dilyn cyhoeddiad Kate Forbes heddiw, mae’n debygol iawn mai John Swinney fydd yn dod i’r brig i fod yn arweinydd ac yn Brif Weinidog, heb orfod wynebu cystadleuaeth o fewn ei blaid ei hun.
‘Diolch’
Pan gyhoeddodd Humza Yousaf ei ymddiswyddiad, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ddiolch iddo am gryfhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy blaid.
“Mae’r achos dros annibyniaeth i’r Alban yn parhau mor gryf ag erioed, ac edrychaf ymlaen at symud ei achos ymlaen gydag arweinydd newydd yr SNP, yn yr un modd ag y mae Plaid Cymru yn parhau i wneud yr achos yng Nghymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru.