Mae cynghorwyr wedi clywed bod Cyngor Blaenau Gwent wedi gwneud “cynnydd sylweddol” wrth wella gwasanaethau Cymraeg.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fis diwethaf, clywodd cynghorwyr am y cynllun gweithredu oedd wedi cael ei roi ar waith wrth ymateb i achosion o dorri’r Ddeddf Iaith Gymraeg.

Caiff safonau cyfreithiol eu gosod ym Mesur y Gymraeg 2011, a’r nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus megis Cyngor Blaenau Gwent yn cydymffurfio â’u dyletswydd gyfreithiol i beidio trin y Gymraeg “yn llai ffafriol” na Saesneg.

Diffyg gwasanaeth ffôn yn Gymraeg

Fis Tachwedd 2021, gwnaed cwynion nad oedd Blaenau Gwent yn darparu gwasanaeth ffôn Cymraeg.

Fis Ebrill 2022, darparodd y Cyngor ymateb cychwynnol i ymchwiliad y Comisiynydd, oedd wedi codi rhagor o bryderon ynghylch cydymffurfio.

Roedd hyn yn ymwneud â hyrwyddo gwasanaethau, asesu sgiliau iaith staff, darparu cyfleoedd hyfforddi, ac asesu anghenion iaith swyddi.

Yn y cyfarfod, dywedodd Andrew Parker, rheolwr gwasanaethau polisi a phartneriaethau, wrth gynghorwyr fod y gwaith wrth ymateb i’r holl broblemau, yn ei hanfod, “wedi’i gwblhau” a bod adroddiad terfynol wedi’i gyflwyno i Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

“Yn dechnegol, mae’r holl weithredoedd wedi’u cwblhau,” meddai Andrew Parker.

Cynllun gweithredu

Eglurodd fod y Cyngor yn aros i blatfform ar-lein yn darparu cyrsiau Cymraeg ar gyfer staff fynd yn fyw, ac mai dyma pam fod yr elfen hon o’r gwaith wedi’i lliwio’n oren yn y cynllun gweithredu.

“Rydyn ni wedi hysbysu’r Comisiynydd gan fod yr holl waith wedi’i wneud, ac rydyn ni ond yn aros i’r botwm gael ei wasgu er mwyn croesi’r llinell derfyn,” meddai wedyn.

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae llawer mwy o allu a hyder ieithyddol er mwyn i bobol gael symud hynny yn ei flaen,” meddai Andrew Parker wrth drafod materion yn ymwneud â’r Cyngor.

“Yr un fath â hyfforddiant, mae gwaith paratoi sylweddol wedi’i wneud ac mae hynny wedi’i gyfleu i’r staff fel eu bod nhw’n gwybod yr ystod o opsiynau sydd ar gael i wella sgiliau ieithyddol, o gyrsiau cyflwyno cynnar i rai pellach.”

Ychwanegodd fod yr awdurdod bellach yn “gwybod” pwy sydd â’r sgiliau hynny ac ar ba lefel yn y Cyngor maen nhw, ac mae rheolwyr yn cael eu hannog i feddwl am wella sgiliau Cymraeg eu timau.

Recriwtio

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella ein gweithdrefnau a lle mae angen y Gymraeg yn y broses recriwtio,” meddai Andrew Parker wrth droi at y broblem olaf, sef recriwtio.

Dywedodd e wrth gynghorwyr fod hyn er mwyn sicrhau bod pobol sy’n ymgeisio am swyddi gyda’r Cyngor yn deall y gallai’r gofyniad Cymraeg fod yn destun prawf, yn ddibynnol ar y math o swydd yw hi.

“Mae hynny wedi ein symud ni tuag at gydymffurfio â’r Safonau Cymraeg,” meddai.

Y cam nesaf yw y bydd y Comisiynydd yn nodi’r adroddiad cynnydd terfynol ar y cynllun gweithredu.

“Yr adborth gawson ni hyd yma yw eu bod nhw’n fodlon ac yn hapus â’r hyn rydyn ni wedi’i wneud, ac maen nhw wedi ein canmol ni ar ein cynllun gweithredu.”

Cydnabyddiaeth

“Mae’n dda iawn clywed am y gwaith gwych,” meddai’r Cynghorydd Joanna Wilkins, cadeirydd y pwyllgor.

“Mae’r pethau rydych chi wedi’u gwneud yn anhygoel, yn enwedig o ran adnabod arfer da a symud ar hynny, boed e’n gynllun gweithredu neu beidio, ac am ei fod e’r peth iawn i’w wneud a’r peth iawn i’n sefydliad.”

“Rydyn ni’n dweud fel Cyngor ein bod ni’n ateb y gofynion, ond rhaid i ni gael cydnabyddiaeth yn ôl gan y Comisiynydd,” meddai’r Cynghorydd Tommy Smith.

Ychwanegodd Andrew Parker y byddai sylw’r pwyllgor yn cael ei dynnu at sylwadau’r Comisiynydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Nododd cynghorwyr fod disgwyl i’r adroddiad fynd gerbron cyfarfod o’r Cabinet ym mis Mehefin.