Mae meddygon iau wedi sicrhau estyniad i’w cyfnod streicio wrth iddyn nhw barhau i drafod cyflogau â Llywodraeth Cymru.

Mae’r estyniad yn golygu bod eu cyfnod streicio’n cael ei ymestyn i fis Medi, yn ôl cymdeithas feddygol BMA Cymru.

Roedd y mandad am ddod i ben ar Fehefin 17 yn wreiddiol.

Pleidleisiodd 98% o aelodau BMA Cymru o blaid streicio fis Rhagfyr y llynedd.

‘Pwysig sicrhau mwy o amser’

“Rydyn ni’n falch o allu sicrhau estyniad i’n mandad mawr dros streicio,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau Cymru.

“Tra ein bod ni’n gobeithio rhoi terfyn ar ein hanghydfod tros gyflogau drwy drafod tâl wrth ddod i gytundeb credadwy ac adfer ein cyflogau, roedd hi’n bwysig sicrhau rhagor o amser ar gyfer ein mandad.

“Mae’r estyniad hwn yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar drafodaethau, ond mae hefyd yn rhoi’r sgôp i ni roi trefn arnon ni ein hunain a gweithredu ein hawl gyfreithiol i streicio pe bai angen.

“Mae hyn yn fater o anrhydeddu mandad digamsyniol ein haelodau.

“Mae meddygon wedi profi toriad cyflog gwirioneddol o bron i draean ers 2008.

“Fe wnaethon nhw bleidleisio’n sylweddol dros roi terfyn ar ddibrisio’u gwasanaeth, maen nhw’n gwybod nad ydyn nhw’n werth traean yn llai na’u rhagflaenwyr, ac yn gwybod mai nawr yw’r amser i sefyll i fyny dros y proffesiwn a throi’r trai ar erydu eu cyflogau’n barhaus, unwaith ac am byth.”

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru a chyflogwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cytuno i’r estyniad fel rhan o drafodaethau parhaus tros gyflogau.

Mae pob ochr yn gobeithio dod i gytundeb maes o law tros gyflogau meddygon iau, a meddygon ac ymgynghorwyr SAS yng Nghymru.

Fis diwethaf, cyhoeddodd BMA Cymru eu bod nhw am ohirio streiciau, ac fe wnaethon nhw hefyd gefnu ar gynlluniau i gyhoeddi rhagor o streiciau meddygon iau er mwyn trafod cyflogau.

Roedd eu penderfyniad i drafod cyflogau’n seiliedig ar gynnig sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddod â’r anghydfod i ben.

Fis Awst y llynedd, fe wnaeth pwyllgorau oedd yn cynrychioli meddygon gofal eilaidd ddechrau trafodaethau ar wahân ar ôl cael cynnig godiad is na chwyddiant o 5% ar gyfer 2023-24.

Cafodd meddygon SAS gynnig o gyn lleied ag 1.5% – y cynnig isaf o blith llywodraethau gwledydd Prydain, a llai nag argymhelliad corff meddygon a deintyddion y DDRB y llynedd.

Mae meddygon iau wedi streicio am ddeng niwrnod hyd yn hyn eleni.