Mae pobol yng Nghymru, ac yn Lloegr, yn bwrw eu pleidlais yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd heddiw (dydd Iau, Mai 2).
Mae pedwar ymgeisydd ym mhob ardal, sef Heddlu’r De, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r Gogledd a Heddlu Gwent.
Mae’r ymgeiswyr yn cynrychioli un o bedair plaid – y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Blaid Lafur.
Mae’r Comisiynwyr ym mhob ardal yn gyfrifol am flaenoriaethau a chyllidebau’r llu, a nhw hefyd sy’n penodi ac yn diswyddo Prif Gwnstabliaid.
Yn wahanol i’r arfer eleni, bydd yn rhaid dangos cerdyn adnabod ffotograffig er mwyn pleidleisio – penderfyniad sydd wedi bod yn ddadleuol ers ei gyhoeddi.
Bydd gorsafoedd pleidleisio’n cau am 10 o’r gloch heno, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi fory (dydd Gwener, Mai 3).