Mae cais i droi tafarn hanesyddol yn llety gwyliau wedi cael ei wrthod yn unfrydol gan gynllunwyr.

Derbyniodd Cyngor Gwynedd gais i newid defnydd llawr gwaelod Tafarn y Faenol, Pentir o fod yn dŷ tafarn cyhoeddus i fod yn llety gwyliau dau lawr hunangynhaliol.

Mae’r tafarn hanesyddol yn dyddio’n ôl i ganol y ddeunawfed ganrif, ac roedd unwaith yn rhan o Ystad y Faenol.

Cais

Wedi’u cyflwyno gan Paul Roberts o Sylfaen Associates Ltd, mae’r cynlluniau wedi ennyn ymateb cryf yn yr ardal leol.

Fe wnaeth dros 1,200 o bobol lofnodi deiseb ar-lein i “Achub Tafarn y Faenol, Pentir, Bangor”.

Fe wnaeth Pentir Action Group addo hefyd y bydden nhw’n achub yr adeilad at ddefnydd y gymuned, ar ôl i’r perchennog Duncan Gilroy ddadlau nad oedd rhedeg y busnes yn “opsiwn dichonadwy”.

Fe wnaeth swyddogion cynllunio argymell bod y cais yn cael ei wrthod.

Cytunodd y pwyllgor yn unfrydol, ac fe wnaethon nhw ei wrthod, gyda 14 o bleidleisiau yn erbyn.

Diffyg tystiolaeth

Dyma’r trydydd tro i gynlluniau i weddnewid y dafarn ddod gerbron y pwyllgor.

Cafodd dau gais blaenorol eu gwrthod hefyd am resymau’n ymwneud â “diffyg gwybodaeth i gyfiawnhau colli adnodd i’r gymuned”.

Y prif newid yn y cais diweddaraf oedd cynnwys “adroddiad dichonolrwydd” gan Dabro & Associates, sy’n ymgynghorwyr ar eiddo trwyddedig a hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig nad oedd “dim yn yr adroddiad sy’n cynnig unrhyw gyfiawnhad nac yn cynnig unrhyw dystiolaeth dros gau’r dafarn”.

Roedd gofyn cael adroddi ariannol i gynnig trosolwg o sefyllfa’r busnes, ond does dim “tystiolaeth ariannol gadarn wedi’i chyflwyno”, meddai.

“Dydy hi ddim yn ymddangos bod y grŵp cymunedol wedi cyflwyno tystiolaeth chwaith,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.

Mae’r cais wedi’i gyflwyno gerbron y pwyllgor gan yr aelod lleol yn sgil pryderon am “golli adnodd cymunedol pwysig a chreu gormodedd o lety gwyliau”.

Roedd pennaeth yr adran gynllunio o’r farn ei bod yn “briodol” ystyried y cais “o ganlyniad i fudd y cyhoedd”.

Ailgyflwyno’r cais gwreiddiol

“Mae hi’n eithaf amlwg mai dyma’r trydydd tro iddyn nhw gyflwyno’u cais gwreiddiol ac, mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim wedi ychwanegu unrhyw beth,” meddai Cyngor Cymuned Pentir yn ystod ymgynghoriad.

“Roedd sôn yn ein gwrthwynebiad gwreiddiol fod yr adeilad hanesyddol hwn wedi bod yn gyrchfan gymunedol ers degawdau, tra bod gormodedd o unedau gwyliau eisoes yn yr ardal wledig hon neu wedi cael caniatâd cynllunio nid nepell o’r safle hwn.

“Rydym yn gwrthwynebu, felly, ar sail gormodedd, yn ogystal â sefyllfa sy’n tarfu ar gyfleusterau cymdogion.”

Disgrifiodd Cefin Roberts golli’r dafarn boblogaidd fel “ergyd drom” i drigolion lleol a phentrefi cyfagos.

Wrth amlinellu’r achos, dywedodd y swyddog cynllunio Keira Sweenie fod y grŵp cymunedol “yn dal o’r farn fod eu cynigion i redeg busnes o’r safle’n ddichonadwy”, ond nododd “na chafodd unrhyw dystiolaeth ei chyflwyno”.

Doedd dim modd ystyried cynllun busnes gan yr ymgeiswyr, oedd yn disgrifio tair uned wyliau ar gyfer hyd at ddeuddeg o bobol, gan ei fod yn ymwneud â “chais gwahanol”.

Ni fu “unrhyw ymgais i werthu’r eiddo, ond yn hytrach i’w roi ar rent fel busnes”, meddai.

Doedd “dim awgrym o ddyddiad rhoi’r eiddo ar rent” chwaith, na “thystiolaeth i ddangos ei fod wedi’i hysbysebu am dri mis yn olynol”.

Penderfyniad

Daeth cynllunwyr i’r casgliad yn eu hadroddiad fod “diffyg tystiolaeth glir nad oedd y busnes yn ariannol ddichonadwy pan gaeodd ei ddrysau (a chyn hynny), ac nad oes modd ei werthu neu ei roi ar rent fel cyfleuster allai fod yn ariannol ddichonadwy yn y dyfodol”.

“Dydyn ni ddim yn credu bod digon o dystiolaeth wedi’i chyflwyno ynghyd â’r cais i gyfiawnhau colli cyfleuster cymunedol pwysig, fyddai’n digwydd pe bai’r tŷ tafarn cyhoeddus hwn yn cael ei golli’n barhaol,” medden nhw.

“Gobeithio y byddwch chi’n gwrthod y cais yn unol â pholisi ISA 2 – gwarchod adnoddau cymunedol,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.

Fe wnaeth y Cynghorydd Edgar Wyn Owen gynnig gwrthod y cais, ac fe eiliodd y Cynghorydd Gruff Williams y cynnig.

“Roeddwn i’n arfer yfed yn y Faenol; gobeithio y gwelwn ni hi’n agor unwaith eto,” meddai’r Cynghorydd Gruff Williams.