Mae Plaid Cymru wedi amlinellu eu “gofynion” i Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar drothwy’r Gyllideb yr wythnos nesaf.
Wrth siarad â’r wasg yn y Senedd, dywedodd Heledd Fychan, llefarydd materion cyllidebol, diwylliannol a’r Gymraeg y Blaid, eu bod nhw’n galw am:
- ailddiffinio HS2 fel prosiect Lloegr yn unig, a bod Cymru’n derbyn y £4bn sy’n ddisgwyliedig o ganlyniad
- cael gwared ar Fformiwla Barnett, a dewis fformiwla newydd sy’n seiliedig ar anghenion
- datganoli Ystâd y Goron i Gymru
- cael gwared ar y cap sydd ar fudd-daliadau i deuluoedd â mwy na dau blentyn
- adfer taliadau tanwydd y gaeaf.
Bydd Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, yn cyhoeddi ei Chyllideb ddydd Mercher nesaf (Hydref 30), ond mae’n annhebygol y bydd hi’n cyhoeddi llawer iawn o’r hyn sydd wedi’i gynnwys ymhlith gofynion Plaid Cymru.
Rhaid i Lafur “ddechrau cyflawni”
Wrth siarad â golwg360, dywed Heledd Fychan wrth gyfeirio at ofynion Plaid Cymru fod “rhaid gweld symudiad ar yr holl feysydd yma”.
Os na fydd y symudiad yma’n digwydd, meddai, mae’r “effaith yn mynd i fod yn drychinebus i gymunedau Cymru”.
“Mi wnaeth Llafur yma yng Nghymru addo gymaint i bobol pan oedden nhw’n pleidleisio i’r Blaid Lafur yn San Steffan,” meddai.
“Mae rhaid iddyn nhw ddechrau cyflawni ar hynny, a dydyn ni ddim angen geiriau gwag.”
Dywed fod y Blaid Lafur ym Mae Caerdydd, ac yn San Steffan hefyd, yn y gorffennol wedi cefnogi’r gofynion hyn gan Blaid Cymru.
“Rydym yn gofyn am degwch i Gymru, ar bethau roedd Llafur yma yng Nghymru yn arfer cytuno efo ni arnyn nhw, ac yn gofyn amdanyn nhw,” meddai.
‘Ddim yn edrych am gytundeb efo Llywodraeth Cymru’ ar gyllideb
O ran Cyllideb Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi pwysleisio pwysigrwydd Cyllideb Rachel Reeves wrth i Gymru aros i weld a fydd rhagor o arian yn dod i Gymru.
Yn ôl y system ariannu bresennol, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn canran o arian o brosiectau yn Lloegr sy’n ymwneud â meysydd datganoledig, megis iechyd ac addysg.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’u cynlluniau cyllidebol i’r Senedd ar Ragfyr 10.
Bydd rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cefnogaeth gan un aelod o’r gwrthbleidiau i fedru cael cydsyniad y Senedd i basio’u Cyllideb.
Dywed Heledd Fychan nad yw Plaid Cymru’n “edrych am gytundeb efo Llywodraeth Cymru” ar unrhyw Gyllideb, gan ymbellhau oddi wrth yr hen Gytundeb Cydweithio.
Ond mae’n gwrthod dweud ar hyn o bryd a ydy’r gofynion ar gyfer Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llinell goch o ran a fydd Plaid Cymru’n cefnogi Cyllideb Llywodraeth Cymru ai peidio.
“Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cyllideb, byddwn ni’n edrych yn fanwl iawn dros hynny,” meddai.