Mae gan Gymdeithas yr Iaith bryderon y bydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai yn “sylweddol wannach” na’r disgwyl.

Maen nhw hefyd yn poeni na fydd y Papur yn cynnwys goblygiadau polisi digon blaengar i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Cymru.

Yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru yn 2021, ymrwymodd y Llywodraeth i “gyhoeddi Papur Gwyn fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartref digonol” cyn diwedd tymor y Senedd, ac mae disgwyl i’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi cyn diwedd y mis.

Hepgor ‘hawl’

Ond mewn sesiwn graffu yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Hydref 10, cyfeiriodd Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai Llywodraeth Cymru at y Papur Gwyn fel un ar “ddigonolrwydd tai, rhenti teg a fforddiadwyedd”, gan hepgor y gair “hawl” yn llwyr.

Ond mae’r “hawl i dai digonol” yn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo gan y Cenhedloedd Unedig, medd y Gymdeithas, sy’n un o nifer o fudiadau sy’n ymgyrchu dros ei sefydlu yng nghyfraith ddomestig Cymru.

Byddai sefydlu’r hawl yn gosod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tai addas, fforddiadwy, ac sy’n bodloni anghenion diwylliannol ar gael yn lleol i bawb yng Nghymru, medd y Gymdeithas.

“Byddai’n hynod siomedig pe bai’r Llywodraeth yn gollwng egwyddor greiddiol y Papur Gwyn yr ymrwymodd iddo dair blynedd yn ôl, sef sefydlu’r hawl i dai digonol,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.

“Heb hwnnw, rhaid cwestiynu gwerth cyhoeddi Papur Gwyn o gwbl.

“Gall gymunedau ar draws Cymru dystio i’r argyfwng maen nhw’n eu hwynebu oherwydd methiant y farchnad tai agored i ddarparu cartrefi ar gyfer pobol leol.

“Yn anffodus, dydy’r Llywodraeth ddim i’w gweld yn deall yr argyfwng.

“Rydym yn galw am gyflwyno Deddf Eiddo cynhwysfawr fyddai, ymysg pethau eraill, yn corffori’r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru a sicrhau bod yr hawl i gartref yn hawl sylfaenol, fel mae hawl i addysg neu wasanaeth iechyd.

“Dyna’r unig ffordd o sicrhau dyfodol i’n cymunedau, ond mae Papur Gwyn y Llywodraeth yn debygol o fod yn sylweddol wannach na hynny.”

‘6,000 o aelwydydd mewn llety dros dro’

Yn y cyfamser, mae melin drafod Sefydliad Bevan yn galw ar Lywodraeth Cymru i “wneud popeth fedran nhw” i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn 2026.

Yn ôl adroddiad newydd gan y sefydliad, mae dros 6,000 o aelwydydd yn byw mewn gwely a brecwast neu lety dros dro gan eu bod nhw’n methu dod o hyd i gartref parhaol.

Prinder tai cymdeithasol sy’n gyfrifol am hyn, meddai Sefydliad Bevan; ers 1981, mae 150,000 yn llai o dai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn 2026, ac maen nhw’n dweud bod hyn “dal yn bosibl”.

“Fe wnaeth nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro yng Nghymru gynyddu 18% yn ystod 2023-24,” meddai Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi a Rheoli Sefydliad Bevan.

“Mae un ym mhob 215 o aelwydydd nawr yn byw mewn llety dros dro, a chwech ymhob 1,000 o blant.”

‘Cam pwysig’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le addas, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref yn un o’u prif uchelgeisiau”.

“Mae ein Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhent Teg a Fforddiadwyedd yn gam pwysig i gyrraedd yr uchelgais hwn, ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan ystod eang o bobol mewn ymateb i’r Papur Gwyn er mwyn arwain ein camau nesaf.”