Mae cynllun i godi deunaw o gartrefi mewn pentref gwledig yn Llŷn wedi cael ei wrthod eto, yn sgil ffrae tros ei effaith ar iaith y gymuned “sylweddol” Gymraeg.
Roedd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd eisoes wedi gwrthod y cymysgedd o dai fforddiadwy arfaethedig ar dir pori ger Cae Capel, Botwnnog ddwywaith o’r blaen.
Cafodd y cais llawn i ddatblygu’r safle 0.66 hectar ei gyflwyno gan R Williams o Cae Capel Cyf drwy’r asiant Jamie Bradshaw o Owen Devenport Ltd.
Roedd cyngor cymuned y pentref wedi cyflwyno gwrthwynebiad cryf ar ran trigolion lleol.
Doedden nhw ddim yn teimlo bod “unrhyw alw” am y tai, gan ddadlau y dylid “cyfyngu’r tai i siaradwyr Cymraeg yn unig”.
Ceisiadau blaenorol
Roedd y cynllunwyr wedi mynd yn groes i argymhellion swyddogion ym mis Medi, a hynny mewn pleidlais oedd wedi gwrthod y datblygiad o drwch blewyn ar sail yr effaith ar y Gymraeg a’r diffyg galw.
Cafodd cyfnod callio o bum wythnos ei gyflwyno fel bod modd ailystyried rhai materion mewn cyfarfod ddoe (dydd Llun, Hydref 21).
Ond cafodd y cynllun ei wrthod unwaith eto, er gwaethaf rhybudd y swyddog cynllunio y gallai fynd i apêl, allai arwain at gostau ychwanegol i Gyngor sydd eisoes yn brin o arian.
Roedd y pennaeth cynllunio Gareth Jones wedi nodi achos tebyg yng Ngwalchmai ar Ynys Môn, oedd wedi gweld cynllun tai fforddiadwy yn arwain at bryderon tros ei effaith ar y Gymraeg.
“Defnyddion nhw’r un polisi cynllunio â ni – er bod eu costau’n ymwneud yn bennaf ag angen a gorddatblygu – ac fe wnaeth yr apêl arwain at gostau dros £16,000,” meddai.
“Pe bai’r cais yn cael ei wrthod, bydd yn fater i’r arolygwr benderfynu a yw’r dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno’n ddigon cryf mewn perthynas â’r polisi iaith Gymraeg.
“Ond rydym yn teimlo bod tystiolaeth gadarn fod y cynllun yn bodloni’r polisi.
“Ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei chyflwyno sy’n dangos y byddai’r cynllun yn cael ‘effaith sylweddol ar y Gymraeg’.”
Gorddatblygu
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Williams, yr aelod lleol, wrth y cyfarfod fod 70 o dai yn unig ym Motwnnog.
“Mae caniatáu deunaw arall yn cynyddu’r tai gan 25% yn y pentref – onid yw hynny’n cael ei ystyried yn orddatblygiad?” gofynnodd.
“Beth yw pwrpas cael cyfarfod cynllunio – sy’n trafod neu’n pleidleisio ar geisiadau – pan fo’r pennaeth cynllunio’n sefyll ar ei draed cyn y bleidlais ac yn dweud wrthoch chi sut i bleidleisio?
“Mae gennym ni ddyletswydd fel Cyngor ac fel Cymry i warchod a hyrwyddo’r iaith.”
Sefyllfa’r Gymraeg
Nododd y Cynghorydd Gruff Williams ystadegau’r Cyfrifiad, gan ddweud bod 84.7% o boblogaeth Botwnnog yn siaradwyr Cymraeg, o gymharu â 69% yn Rhiw, 60% yn Abersoch a 67% yn Llanbedrog.
Fe wnaeth e gynnig gwrthod, gan ddweud bod y datblygiad “yn groes” i bolisi’r Gymraeg ac y gallai “greu effaith niweidiol a sylweddol, a niwed, i’r Gymraeg”.
“Onid yw’n hollol amlwg” y byddai’r datblygiad yn cael effaith ar y Gymraeg, gofynnodd y Cynghorydd Louise Hughes.
“Fel Cyngor, ydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ein bod ni’n ei wneud?” gofynnodd.
Ond tynnodd Gareth Jones sylw at y ffaith fod “yr arolygwr (cynllunio) wedi nodi nad yw’r system gynllunio ar gyfer defnydd tir yn gallu darogan na rheoli nodweddion personol trigolion cartrefi newydd” – gan gynnwys eu gallu i siarad Cymraeg.
Cafodd y datblygiad ei asesu fel un “priodol”, gan ddarparu cymysgedd o dai sy’n cael eu hystyried yn “bwysig” i helpu i gadw trigolion yno.
Wedi’i leoli mewn ardal ddatblygu benodedig, gallai hefyd helpu i fynd i’r afael ag “argyfwng tai” yng Ngwynedd.
Roedd y Cynghorydd Gareth Williams wedi cwestiynu’r angen am y cartrefi ym Motwnnog.
Ond nododd y swyddog cynllunio nad oes angen i’r ymgeiswyr brofi’r angen.
Dangosodd uned tai strategol y Cyngor fod 2,374 o bobol ar restr tai’r sir, fod 882 o bobol wedi’u cofrestru gyda Tai Teg ar gyfer eiddo dros dro, fod 34 o deuluoedd ar y rhestr tai cymdeithasol, ac 14 ar restr Tai Teg yn ardal cymuned Botwnnog yn unig.
Roedd y Cynghorydd Gareth Jones yn teimlo na fyddai adeiladu rhagor o dai “o fudd i’r iaith na’r diwylliant”, gan ychwanegu mai eu “dyletswydd yw ei hamddiffyn a’i gwarchod yn y pentrefi lle caiff ei siarad fwyaf”.
100% fforddiadwy
Fe wnaeth y Cynghorydd Edgar Wyn Owen ddadlau o blaid y cartrefi.
“Mae’r tai’n 100% fforddiadwy,” meddai.
“Mae’r tir wedi’i ddynodi ar gyfer adeiladu tai, a gall pobol o’r ardal gael tŷ pe bai’n cael ei gymeradwyo.
“Dyna’r syniad y tu ôl i hyn, fel y gall pobol aros yn eu hardal.
“Chi ydy’r rhai werthodd y tai haf.”
“Mae tai yn ddrud ym Mhen Llŷn, ac rydych chi eisiau taflu hyn allan drwy’r ffenest?
“Dw i ddim am ymddiheuro am dai fforddiadwy nac am lefydd i’n pobol ifanc ni fyw.
“Mae’n bwysig y byddwch chi’n taflu arian i ffwrdd fyddai, fel arall, yn mynd i’r henoed neu i blant.”
Ond roedd y Cynghorydd Huw Rowlands yn teimlo bod “perygl gwirioneddol” o gael effaith ar y gymuned a’r Gymraeg.
“Does dim byd i ddweud mai siaradwyr Cymraeg fydd yn byw yno; bydd yn cael effaith ar yr iaith yn y gymuned…
“Ond dw i ddim am wadu fod yna berygl costau fan yma.”