Mae Llywodraeth Cymru wedi talu dyled werth £19m oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn treth.

Daw hyn yn dilyn archwiliad gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi i’r ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cyflogi contractwyr arbenigol.

Mae’r corff amgylcheddol yn dal i siarad â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi am y bil terfynol, allai fod yn uwch.

Dywed Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fod y llywodraeth “wedi cynyddu eu hymgysylltiad” â Chyfoeth Naturiol Cymru, tra bod aelodau o’r gwrthbleidiau yn dweud bod y newyddion yn “frawychus” a “phryderus”.

Yr archwiliad

Mae cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod archwiliad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi dangos “atebolrwydd posib” sy’n gysylltiedig â chontractwyr arbenigol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi talu’r £19m, “heb fod yn cymryd unrhyw atebolrwydd”, mewn treth incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu dreth prentisiaethau oedd heb gael ei dalu.

Bydd Llywodraeth Cymru’n trafod sut all Cyfoeth Naturiol Cymru ad-dalu’r arian iddyn nhw unwaith fyddan nhw wedi cael y bil terfynol.

Mewn datganiad, mae Huw Irranca-Davies, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Newid Hinsawdd yng nghabinet Llywodraeth Cymru, yn dweud ei fod wedi gofyn i’w swyddogion weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu gwell trefniadau monitro “i roi sicrwydd a hyder yn y trefniadau goruchwylio, rheoli ariannol a rheoli risg”.

“Rwyf hefyd wedi gofyn i Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd nifer o gamau i wella capasiti a gallu ymhellach o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru,” meddai.

Dywed hefyd fod ymchwiliad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn edrych ar y ffordd mae’r corff wedi bod yn cydymffurfio â gofynion yn ymwneud â gweithwyr sydd ddim ar y gyflogres (payroll).

Mae rheol treth o’r enw IR35 yn dweud bod rhaid i weithwyr sydd ddim ar y gyflogres dalu tua’r un faint o dreth incwm ac Yswiriant Gwladol â chyflogedigion arferol.

‘Brawychus’

Wrth ymateb, dywed Mark Isherwood, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, ei bod hi’n “frawychus” clywed am faint y bil sydd wedi’i dalu gan Lywodraeth Cymru.

“Ni allai fod wedi digwydd ar adeg waeth o ran cyllid cyhoeddus,” meddai’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

“O feddwl am gefndir Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â’i brosesau gwneud penderfyniadau a chontractio – y canfu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol i fod yn gwbl anfoddhaol – mae hyn yn peri pryder mawr.

“Yn amlwg, mae mater o’r maint hwn yn mynnu atebion a bydd y Pwyllgor yn dod â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i mewn i graffu arnyn nhw cyn gynted â phosib.”

‘Sefyllfa ddifrifol iawn’

Ychwanega Llŷr Gruffydd, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a llefarydd amaeth a materion gwledig Plaid Cymru, fod hon yn “sefyllfa ddifrifol iawn”.

“Rwy’n annog pob parti i ddatrys yr anghydfod hwn a sicrhau nad yw trethdalwr Cymru ar eu colled,” meddai.

“Mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaeth pwysig i bobol Cymru, ac mae’n hanfodol ei fod yn gallu parhau i gyflawni’r gwaith hwn ar yr adeg heriol hon.”

Dros yr haf, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw’n ystyried cael gwared ar 265 o swyddi er mwyn trio arbed £13m.

Byddai’r cynnig yn golygu cau tri chanolfan ymwelwyr, sef Coed y Brenin ger Dolgellau, a Nant yr Arian ac Ynys Las yng Ngheredigion.