Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Comisiwn Annibynnol ar gyfer y sector dŵr a’r dull o’i reoleiddio.
Mae disgwyl mai hwn fydd yr adolygiad mwyaf o’r diwydiant ers ei breifateiddio.
Y Comisiwn yw’r cam nesaf yn null hirdymor y Llywodraeth o sicrhau fframwaith rheoleiddio digon cadarn a sefydlog i ddenu’r buddsoddiad i lanhau ein dyfrffyrdd, cyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith, ac adfer hyder y cyhoedd yn y sector.
Mae’n dilyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol gyntaf y Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf.
Yn yr uwchgynhadledd, siaradodd Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am yr angen i reoleiddio ac i reoleiddwyr gefnogi twf a buddsoddiad.
Gwaith y Comisiwn
Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl y flwyddyn nesaf gydag argymhellion i’r Llywodraeth ar sut i fynd i’r afael â phroblemau systemig etifeddol yn y sector dŵr i adfer ein hafonydd, llynnoedd a’n moroedd i fod yn iach, cwrdd â heriau’r dyfodol a sbarduno twf economaidd.
Bydd yr argymhellion hyn yn sail i ddeddfwriaeth bellach i ddenu buddsoddiad hirdymor a glanhau ein dyfroedd yn yr hirdymor, rhoi biliynau o bunnoedd yn yr economi, cyflymu’r broses o ddarparu seilwaith i adeiladu tai, a mynd i’r afael â phrinder dŵr o ystyried bod angen i’r wlad ddod o hyd i bum biliwn litr ychwanegol o ddŵr y dydd erbyn 2050.
Bydd Syr Jon Cunliffe, cyn-Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr – sydd â sawl degawd o brofiad economaidd a rheoleiddiol – yn cadeirio’r Comisiwn.
Bydd y Comisiwn yn tynnu ar banel o arbenigwyr o bob rhan o’r sectorau rheoleiddiol, amgylcheddol, iechyd, peirianneg, cwsmeriaid, buddsoddwyr ac economaidd.
Mae’n rhan o ailosod y sector dŵr gan y Llywodraeth drwy sefydlu partneriaeth newydd rhyngddyn nhw, cwmnïau dŵr, cwsmeriaid, buddsoddwyr, a phawb sy’n mwynhau ein dyfroedd ac yn gweithio i amddiffyn ein hamgylchedd.
‘Angen trwsio ein system ddŵr ar frys’
“Mae ein dyfrffyrdd yn llygredig ac mae angen trwsio ein system ddŵr ar frys,” meddai Steve Reed, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn Llywodraeth San Steffan.
“Dyna pam rydym ni heddiw wedi lansio Comisiwn Dŵr i ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen arnom i lanhau ein dyfrffyrdd ac ailadeiladu ein seilwaith dŵr sydd wedi torri.
“Bydd canfyddiadau’r Comisiwn yn helpu i lunio deddfwriaeth newydd i ddiwygio’r sector dŵr fel ei fod yn gwasanaethu buddiannau cwsmeriaid a’r amgylchedd yn iawn.”
Dywed ei bod yn “anrhydedd” cael ei benodi i’r rôl.
“Mae’n hanfodol ein bod yn darparu system well i ddenu buddsoddiad sefydlog a chyflymu’r gwaith o adeiladu seilwaith dŵr,” meddai.
“Wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd yn y sector cyhoeddus, yn yr amgylchedd, trafnidiaeth a’r Trysorlys, a Banc Lloegr, rwy’ wedi gweld sut y gall rheoleiddio cwmnïau preifat fod yn sylfaenol i gymell perfformiad ac arloesedd, sicrhau gwytnwch a chyflawni amcanion polisi cyhoeddus.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r sector dŵr, o’r amgylchedd a grwpiau cwsmeriaid a buddsoddwyr, i helpu i ddarparu sector dŵr sy’n gweithio’n llwyddiannus i gwsmeriaid, buddsoddwyr a’n hamgylchedd naturiol.”
‘Adeg dyngedfennol’
Mae Huw Irranca-Davies, Diprwy Brif Weinidog Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi croesawu sefydlu’r Comisiwn.
“Ni allai’r adolygiad hanfodol hwn ddod ar adeg sydd mwy tyngedfennol i’n hamgylchedd dŵr a’n diwydiant dŵr,” meddai.
“Mae hyn yn dangos agwedd newydd ein dwy lywodraeth yn cydweithio ar fater sy’n effeithio ar bob un ohonom fel defnyddwyr, buddsoddwyr ac fel stiwardiaid y byd naturiol.
“Mae lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn benderfynol o wella ansawdd dŵr a gwydnwch y sector dŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae gennym flaenoriaethau clir ar gyfer diwygio ac ymdeimlad a rennir o’r gwaith sydd ei angen ar draws cyfundrefnau polisi a rheoleiddiol y ddwy wlad i wneud i’r newid hwn ddigwydd.”
Bydd cyfres o argymhellion yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd Gwladol Defra, a’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, y flwyddyn nesaf.
Bydd Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ymateb gyda’r cynigion maen nhw’n bwriadu eu datblygu.