Mae angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn Uned Iechyd Meddwl arbenigol yng Nghaerdydd, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Daw adroddiad y corff yn dilyn arolygiad oedd wedi para tridiau yn Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sydd dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd yr arolygiad dirybudd o’r uned ym Mhenarth yn canolbwyntio ar ddwy ward rhywedd cymysg i oedolion, sef Uned Asesu Argyfwng Ward Cedar ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Ward Alder.

Ceisio sicrwydd i wella diogelwch cleifion

Yn ystod yr arolygiad, cafodd sawl mater eu nodi oedd wedi arwain at geisio sicrwydd y byddai camau’n cael eu cymryd ar unwaith i wella diogelwch cleifion.

Roedd hyn yn cynnwys cofnodi achosion o atal cleifion yn gorfforol yn anghywir a rhan aelodau o staff heb eu hyfforddi yn yr achosion hyn, sy’n faterion gafodd eu nodi hefyd yn ystod arolygiad blaenorol fis Ionawr y llynedd.

Yn ogystal, roedd yr arolygwyr yn poeni am broblemau cynnal a chadw adeiladau oedd yn peri risgiau iechyd a diogelwch, gan gynnwys lloriau chwyddedig oedd yn atal drysau tân rhag cau a sawl perygl baglu.

Arsylwodd yr arolygwyr fod y tîm gofal ar y ddwy ward ond yn cynnwys dau fath o weithiwr gofal iechyd proffesiynol, oedd wedi codi pryderon am y diffyg arbenigedd amrywiol wrth wneud penderfyniadau.

Gofynnwyd am gamau gweithredu ar unwaith i gynnwys ystod ehangach o ddisgyblaethau mewn penderfyniadau gofal cleifion er mwyn cyrraedd y safonau cenedlaethol.

Arolygiad – darlun cymysg

Roedd y staff gafodd eu holi yn ystod yr arolygiad yn teimlo’n angerddol am eu rolau, ac yn frwdfrydig ynghylch y ffordd maen nhw’n cefnogi’r cleifion ac yn gofalu amdanyn nhw.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion â pharch a charedigrwydd, a rhoddodd y cleifion adborth cadarnhaol ar eu gofal.

Ond gwelodd yr arolygwyr achosion lle na wnaeth y staff ymateb i gleifion roedd angen help arnyn nhw hefyd.

Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ystyried ffyrdd o sicrhau bod y staff yn gallu ymgysylltu â chleifion ac ymateb yn amserol, medd yr Arolygiaeth.

O ganlyniad, maen nhw wedi argymell y dylai’r bwrdd iechyd ystyried gosod pwyntiau galw am gymorth brys yn ystafelloedd gwely’r cleifion ac ym mhob rhan o’r wardiau.

Cafodd lefel uchel o gydymffurfiaeth â’r hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol ei nodi ymhlith y staff.

Dywedwyd wrth yr Arolygiaeth fod rhai aelodau o’r staff wedi cwblhau hyfforddiant gwirfoddol ychwanegol i wella eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chafodd hynny ei gydnabod yn arfer da ganddyn nhw.

Ond nododd yr arolygwyr lefel isel o gydymffurfiaeth â’r hyfforddiant atal a rheoli heintiau, bylchau mewn amserlenni glanhau dyddiol, a diffyg tystiolaeth i ddangos bod y cyfleusterau cymunedol yn cael eu glanhau’n rheolaidd.

Roedd gan y ddwy ward weithdrefnau cryf ar gyfer rheoli meddyginiaethau’n ddiogel a monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Er bod y broses o gadw cofnodion clinigol a chynllunio gofal cleifion yn gyffredinol dda ar Ward Alder, roedd y broses o gadw cofnodion ar Ward Cedar yn wael ar y cyfan.

Roedd cynlluniau ymyrryd llawer o gleifion yn anghyflawn a doedden nhw ddim wedi cael eu teilwra at anghenion unigol.

Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd sefydlu prosesau llywodraethu cryf i wella ansawdd cofnodion y cleifion, medd yr Arolygiaeth.

Roedd digon o staff yn y ddwy ward, ond nododd yr Arolygiaeth drosiant uchel ymhlith y staff, a dibyniaeth fawr ar staff asiantaeth i lenwi sifftiau gwag ar Ward Cedar.

Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd gynnal adolygiad sefydliadol er mwyn sicrhau bod niferoedd staffio, setiau sgiliau a phrofiad ymhlith y staff yn briodol i gynnal diogelwch cleifion a rhoi gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, yn ôl yr arolygwyr.

Doedd cyfarfodydd staff y ward ddim yn cael eu cynnal yn rheolaidd, a doedd dim cyfarfodydd yn y chwe mis cyn yr arolygiad, a dywed yr arolygwyr fod cyfarfodydd staff rheolaidd yn bwysig i sicrhau cyfathrebu effeithiol, mynd i’r afael â phryderon, a hyrwyddo gofal cleifion cydgysylltiedig.

Roedd yn “gadarnhaol” gweld bod gan Ward Alder Gydgysylltydd Gweithgareddau, a bod y cleifion wedi cael gweithgareddau therapiwtig priodol, medden nhw.

Ond doedd gan y naill ward na’r llall Therapydd Galwedigaethol, ac ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod y cleifion ar Ward Cedar yn cael cynnig digon o weithgareddau er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u llesiant.

Dywed yr Arolygiaeth fod angen i’r bwrdd iechyd wneud mwy i sicrhau y gall pob claf gymryd rhan mewn gweithgareddau therapiwtig a chymdeithasol wedi’u personoli i’w helpu i wella.

Roedd gan bob claf ei ystafell wely ei hun a chyfleusterau cawod, oedd yn diogelu eu preifatrwydd a’u hurddas.

Sylwodd yr arolygwyr fod cypyrddau monitro, gaiff eu defnyddio i arsylwi ar gleifion heb i unrhyw beth darfu arnyn nhw yn eu hystafelloedd, wedi’u gadael heb eu cloi, oedd yn amharu ar breifatrwydd, diogelwch ac urddas y cleifion.

Roedd yr arolygwyr yn poeni hefyd nad oedd gan y rhan fwyaf o’r ystafelloedd sgriniau preifatrwydd ar gyfer yr ystafelloedd ymolchi en suite, na llenni i atal golau o ffenestri allanol, gan argymell y dylai’r rhain gael eu gosod.

Roedd y rhan fwyaf o’r staff gwblhaodd yr holiadur yn teimlo nad oedd uwch-reolwyr yn weladwy, ac nad oedd prosesau cyfathrebu rhwng yr uwch-reolwyr a’r staff yn effeithiol.

Dylai’r bwrdd iechyd fyfyrio ar yr adborth hwn, medd yr Arolygiaeth, ac ymchwilio i b’un a ellid gwneud gwelliannau mewn perthynas â gweladwyedd rheolwyr a’r ffordd maen nhw’n cyfathrebu â’r staff.

Roedd prosesau sefydledig ar waith i sicrhau bod ymchwiliadau effeithiol i ddigwyddiadau neu faterion allweddol, a’u bod yn cael eu huwchgyfeirio a bod craffu arnyn nhw er mwyn sicrhau na fyddai’r broblem yn digwydd eto.

Ond mae angen gwneud gwelliannau i sicrhau y caiff y camau gweithredu eu cwblhau’n gyflym ac y caiff gwersi gafodd eu dysgu eu rhannu, medd yr Arolygiaeth.

“Siomedig” ond “calonogol”

“Mae ein harolygiad diweddar yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed wedi tynnu sylw at feysydd mae angen eu gwella ar unwaith er mwyn gwella ansawdd y gofal gaiff ei ddarparu,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Mae’n siomedig nad oedd rhai meysydd wedi gwella ers ein harolygiadau blaenorol, a byddwn yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau yr eir i’r afael â’r materion hyn.

“Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld bod y bwrdd iechyd eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn, a bod y staff yn ymateb i’n hadborth.”