Mae cwmni dur Tata wedi llofnodi cytundeb i ddod â ffwrnais arc drydan newydd a chyfarpar arall i wneud dur i’w safle mwyaf yn y Deyrnas Unedig ym Mhort Talbot.
Cyhoeddodd y cwmni dur Indiaidd y newyddion gyda’r gwneuthurwyr technoleg metelau Tenova, yn rhan o’u symudiad tuag at gynhyrchu dur gwyrddach yn ne Cymru.
Yn ôl adroddiad, pan fydd yn cael ei gomisiynu yn niwedd 2027, mae disgwyl i’r ffwrnais arc drydan newydd (EAF) leihau allyriadau carbon sy’n deillio o wneud dur ar y safle gan 90%, sy’n cyfateb i bum miliwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn.
Bydd gan y safle gapasiti blynyddol o dair miliwn tunnell o ddur – ffigwr sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n debyg i allbwn ffwrneisi chwyth y safle drwy doddi dur sgrap sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig.
Eiliad arwyddocaol wrth drawsnewid Port Talbot
Gallai’r penderfyniad fod yn eiliad arwyddocaol wrth drawsnewid Port Talbot yn y blynyddoedd i ddod, ar ôl i 2,800 o swyddi gael eu peryglu wrth gau dwy ffwrnais chwyth y gweithfeydd dur yn gynharach eleni.
“Bydd y cytundeb hwn, sy’n garreg filltir, yn ein galluogi ni i drawsnewid ein safle gwneud dur fydd, nid yn unig yn cefnogi taith datgarboneiddio’r Deyrnas Unedig, ond hefyd yn darparu cyfleoedd i ddatblygu economi de Cymru,” meddai T. V. Narendran, Prif Weithredwr a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel Ltd.
“Mae heddiw’n garreg filltir bwysig wrth sicrhau bod gwneud dur sy’n isel mewn carbon deuocsid yn dod yn realiti ym Mhort Talbot, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon y Deyrnas Unedig a chefnogi ein cwsmeriaid gyda’u targedau lleihau carbon eu hunain.”
‘Profi ymrwymiad’
“Mae’r bartneriaeth hon yn dilyn yn ôl troed cytundeb gwell rhwng y llywodraeth a Tata Steel, ac mae’n brawf pellach o’n hymrwymiad i ddyfodol llewyrchus i wneud dur yn y Deyrnas Unedig,” meddai Jonathan Reynolds, Ysgrifennydd Busnes a Masnach y Deyrnas Unedig.
“Mae technoleg fel y ffwrneisi sy’n cael eu gwneud gan Tenova yn hanfodol er mwyn datgarboneiddio’r diwydiant, gan ddatgloi ei botensial i ddarparu swyddi sgiliedig, a chreu sefydlogrwydd economaidd ar gyfer gweithwyr dur cenedlaethau’r dyfodol yn ne Cymru.
“Bydd ein strategaeth ddur sydd i ddod yn rhoi sicrwydd pellach i’r sector, yn ogystal â gosod ein cynllun ar gyfer ei dwf a’i ddichonolrwydd hirdymor, wedi’i gefnogi gan £2.5bn ar gyfer dur.”