Dewch am sgwrs hamddenol dros baned a gwin coch, gyda dau eicon o fyd theatr a theledu…
Profiad braf yw cael y cyfle i sgwrsio a holi un o gyplau enwocaf y byd adloniant yng Nghymru, sef Maureen Rhys a John Ogwen.
Mae’r cwpwl priod wedi dathlu eu pen-blwyddi’n 80 oed eleni, ac yn ddiweddar bu’r ddau yn westeion arbennig y gyfres Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dangoswyd nifer o glipiau o ddramâu a ffilmiau yr oedd y ddau wedi actio ynddyn nhw ar hyd y degawdau megis Lleifior ac Y Tŵr.
Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gyfer pennod Nadolig o sioe gelfyddydau Ffion Dafis ar Radio Cymru, a bu’r ddau hefyd yn trafod eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sydd o bwys, fel act gyntaf Y Tŵr, y ddrama mae’r ddau yn cael eu cysylltu’n bennaf â hi, yn llawysgrifen y dramodydd Gwenlyn Parry.
Wrth sgwrsio gyda’r ddau yng nghanol prysurdeb caffi Galeri yng Nghaernarfon – glasied o win coch i John a choffi cryf i Maureen – mae dyn yn synnu at gyfoeth eu storïau. Mor ddifyr yw pob un hanesyn am ddrama, ffilm a chyfres, pob actor a dramodwr mawr y buon nhw’n gweithio gyda nhw. Mae gyrfa’r ddau yn fywgraffiad o fyd theatrig y Gymraeg ar ei mwya’ cyffrous.
Mae lluniau’r archif yn tystio i’w rhan yn natblygiad y theatr, fel y llun poster hardd o Maureen Rhys yn nrama Saunders Lewis, Esther, neu ffotograff Geoff Charles o’r John Ogwen ifanc yn nrama Saunders Lewis, Cymru Fydd, yn 1967.
Yn y coleg ym Mangor y cyfarfu’r ddau, a Cymru Fydd oedd drama gyntaf John ar ôl iddo raddio yn y Gymraeg a’r Saesneg yno. Cafodd ei ddewis gan sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, Wilbert Lloyd Roberts. Dyma’r cwmni y bu John a Maureen yn rhan ohono, fel nifer o actorion eu cyfnod megis Gaynor Morgan Rees, Beryl Williams, Stewart Jones, Sharon Morgan a Sue Roderick.
Oes gan John unrhyw atgofion o’r ‘dyn bach mawr’ Saunders Lewis yn ystod Cymru Fydd?
“Wel, oes,” meddai. “Mi ddoth o i rihyrsals. Yn y Felinheli. Ac roedd o’n ista, fo a Mrs Lewis… mi fedra i weld nhw rŵan. Y peth cynta’ ro’n i erioed wedi ei wneud, ac mi oeddwn i’n ofnadwy o nerfus. Wedyn dyma Wilbert yn dweud: ‘Oes yna rywun efo cwestiwn i Mr Lewis?’ A dyma fi’n dweud: ‘Wyddwch chi yn yr olygfa lle mae o’n sôn am yr hyn sy’ wedi digwydd yn y carchar. Ydi o’n dweud y gwir?’ Dyma fo’n sbïo arna i a dweud: [yn dynwared llais main Saunders Lewis] ‘Dim ond rhoi i lawr beth mae’r cymeriadau yn ei ddweud ydw i. Chi sydd i benderfynu beth mae o’n feddwl.’ Wel, thanciw feri mytsh, Mr Lewis, de!
“Ond fo oedd yn iawn wrth gwrs. Hynny ’di, ella byswn i’n gwneud drama rhywun sydd wedi marw, a fedra i ddim gofyn i hwnnw oedd o’n wir ai peidio. Roedd o’n arbennig.”
Flynyddoedd yn ddiweddarach mi greodd Maureen sioe ar ei chyfer hi a John, yn seiliedig ar lythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts at ei gilydd, o’r llyfr Annwyl Kate, Annwyl Saunders.
“Roeddech chi’n gweld yna fanno – dydi Saunders ddim yn sôn am berfformiadau,” meddai Maureen Rhys. “Yr unig un mae o’n ei enwi ydi Nesta Harris yn Siwan, a dydi o ddim yn sôn am deledu o gwbl. Rydach chi’n gweld nad ydi o ddim yn dadlennu fawr o ddim byd yn ei lythyrau.”
Mae’n debyg y byddai Maureen Rhys wedi hoffi cael gwybod beth oedd barn Saunders ar ei pherfformiadau cofiadwy yn rhai o’i ddramâu, fel Siwan ac Esther. Roedd yn bwysig iddi gael gwneud y clasuron Cymraeg, yn ogystal â dramâu cyfoes mentrus fel Alpha Beta ac Y Tŵr.
“Ro’n i eisio gwneud yn siŵr ryw ffordd neu’i gilydd fy mod i’n gwneud y clasuron,” meddai. “Pan oedd Saunders Lewis yn 90 oed, ges i’r fraint o berfformio Siwan i Gwmni Theatr Cymru. Pan oedd John Gwilym Jones yn cael ei ddoethuriaeth, mi gawson ni wneud Y Tad a’r Mab, a ro’n i mor falch… Mi’r o’n i mor falch fy mod i wedi gwneud dwy o ddramâu John Gwilym Jones, a Siwan, Gymerwch Chi Sigarét, Esther… wedi cael gwneud y rheina. Roedd o’n bwysig, roedd ganddo chi fwy o hawl i ddweud eich bod chi eisio gwthio. I mi, roedd o’n bwysig. Dydi o ddim yn bwysig i bob actores wneud Saunders Lewis neu John Gwilym Jones – fi oedd honna. Roedd o’n bwysig i fi brofi fi’n hun.”
Mae Maureen Rhys yn gredwr mawr mewn “gwthio” mewn gwaith theatr. Roedd sawl un o’r clasuron a wnaeth, fel Siwan, yn “wahanol”.
“Roedd Emily Davies [y cyfarwyddwr] eisio cael gwneud Siwan mewn ffordd fwy agos atoch chi,” meddai. “Dim dweud: ‘O, Saunders ydi hwn – does neb byth yn mynd i’w gyffwrdd o, mae o jyst geiriau ar bapur’.
“Dw i’n cofio bod mewn matinee ac roedd llond y lle o blant ysgol yn perfformio Siwan. Ac roedden nhw’n mynd ‘whit-whiw’ ond mi oedden nhw efo chi am ryw reswm… A dyma fi’n clywed hogyn yn dweud, ‘give it to her, give it to her now!’ Dyma fi’n meddwl wrtha fi fy hun – o ddarllen llyfr Annwyl Kate, Annwyl Saunders, dw i’n meddwl bysa Saunders Lewis wedi chwerthin.” John: “Sa fo wedi bod wrth ei fodd.”
Maureen: “Dw i’n meddwl bod rhyw syniad bod Kate Roberts – roedd hi’n smocio a bob dim – a Saunders yn rhyw bobol, ew, nad ydyn nhw’n bod go-iawn. Pe tasai fy athrawes i wedi gweld y llythyrau yma bydda hi wedi llewygu.
“Rhaid i ni barchu’r cefndir rydan ni’n dod ohono fo; bod Piwritaniaeth yn rhan hanfodol o’n gorffennol ni. Mae gen i un dywediad: ‘Tradition is not a prison, it’s a guide.’ Ac mae hwnna’n dda i gofio. Does dim rhaid i chi ymdrybaeddu. Mae gen i lot o barch i bobol ifanc sy’ wrthi rŵan. Dim eisio bod ofn methu.”
Mentro gyda drama am dor-priodas
Cydweithiodd y ddau ar gynhyrchiad arall gyda Chwmni Theatr Cymru yn 1974. Roedden nhw yn byw yng Nghaerdydd erbyn hynny a Maureen Rhys newydd fod yn actio rhan Marged yn Enoc Huws. Dywedodd y cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts wrth y ddau ei fod angen chwistrelliad newydd i mewn i’r cwmni.
“Dyma fi’n dweud wrth John: ‘Beth am gynnig rhywbeth sy’n ofnadwy o newydd, i ni fel Cymry?’,” meddai. “Mi wnaethost ti chwilio a dod o hyd i Alpha Beta. Chwarae teg i Wilbert, mi’r oedd hi’n reit heriol i gwmni cenedlaethol ar y pryd ei gwneud.”
Drama am dor-priodas oedd Alpha Beta gan yr awdur Ted Whitehead, a John Ogwen a’i cyfieithodd i’r Gymraeg. Ac mi’r oedd hi yn fentrus – dyma’r tro cyntaf o bosib i ddrama Gymraeg gynnwys y gair ‘eff’ erioed.
“Dim ond un waith mae’n digwydd,” meddai Maureen Rhys. “Dyma fi’n gofyn i Wilbert: ‘Fasach chi’n leicio i ni gyfieithu’r gair yma i’r gair Cymraeg? Ffwrchio, ynde. ‘Wel, Maureen,’ medda fo, ‘dw i ddim yn meddwl basa fo’r un peth rywsut, achos ddim dyna mae pobol yn ei ddweud yn Gymraeg… gadewch o fel mae o’. Rhaid i mi ddweud beth bynnag ei fod yn fentrus iawn iawn ar y pryd.”
“Y noson gyntaf un wnaethon ni agor efo’r ddrama yn theatr fach yn y Rhyl,” meddai John. “Ac ro’n i’n poeni sut oedd hon am fynd lawr. Dyma ti’n dweud wrth Glyn Saer: ‘Dw i ofn i bobol gerddad allan’. ‘Fedran nhw ddim,’ medda Glyn, ‘mi fydda i wedi hoelio’r drysau’.”
Chawson nhw mo’i gwneud hi ar deledu, ond mi gafodd y ddrama ei darlledu ar y radio. “Mi ddwedwyd wedyn bod nhw ddim wedi sylwi bod y gair yna,” meddai Maureen Rhys. “Mi aethon ni ar daith ac mi gawson ni adroddiadau’ arbennig o dda. Mi gawson ni wneud lawer o betha’ yn dilyn honna.”
Gwenlyn a’r pictiwrs
Y Tŵr gan Gwenlyn Parry, am dreigl bywyd gŵr a gwraig, yw’r ddrama fawr y mae pobol yn ei chysylltu â’r ddau actor. Sgrifennodd y dramodydd hon yn arbennig ar eu cyfer.
Un o bentref Sling ger Bethesda oedd John Ogwen ac roedd Gwenlyn Parry yn athro arno yn yr ysgol uwchradd – “mi’r oedd ganddo ni dri athro efo diddordeb mewn drama”.
Mae yn cofio Gwenlyn yn cynhyrchu un o ddramâu Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigaret?, yn yr ysgol.
“Roedden ni wedi gwneud perfformiad i’r plant, ac wedi mynd lawr yn arbennig o dda,” meddai. “Dod nôl ar ôl gwyliau Pasg, a Gwenlyn yn sefyll yna, eisiau ein gweld ni gyd fel cast. Dyma fi’n hel pawb at ein gilydd… a gofyn pryd rydan ni’n perfformio i’r rhieni i ni gael trefnu’r plant fynd o gwmpas efo ticedi. ‘Fydd yna ddim perfformiad i’r rhieni’, medda Gwenlyn. ‘Pam?’ ‘Mae Mr Pardo yn meddwl ei bod hi’n rhy anllad’. ‘Gymerwch chi Sigaret?!’ ‘Ia.’ Achos bod Iris wedi rhoi llaw ar ei bol a dweud bod rhywbeth yn ei chroth hi. Mi oedd hwnna’n ormod i Fethesda. Wedyn chethon ni ddim ei gwneud hi.
“Prifathro Bethesda oedd yr un cyntaf erioed i sensro Saunders Lewis.”
“Mae hwnna’n nodweddiadol o deimlad yr oes,” ychwanega Maureen Rhys. “Ro’n i yn gweld bod yna fyd arall tu allan pan o’n i’n mynd i’r pictiwrs…”
Un o bentref Cwm-y-glo ger Llanrug ydy Maureen Rhys, ac mi aeth hithau i’r un ysgol fach â Gwenlyn Parry, a oedd 11 mlynedd yn hŷn na hi. Dechreuodd ei diddordeb ym myd y ddrama wrth fynd ar dripiau i’r ‘pictiwrs’, sef sinema’r Majestic yng Nghaernarfon, bob p’nawn Sadwrn, a dotio at actorion fel Bette Davies a Patricia Roc.
“Ro’n i’n mynd efo Nain ers pan o’n i’n ddim o beth. Dw i ddim yn cofio amser pan o’n i ddim yn mynd i pictiwrs. Hwnna oedd dydd Sadwrn, fe fydda Anti Annie yn dod, ac mi fyddwn i’n cael smalio chwarae’r arwres fatha bod yn y pictiwrs… A beth oedd yn dŵad cynt oedd y Pathé News. Roeddech chi’n cael newyddion y byd yn fanna.”
Bu’n perfformio gyda chwmni drama yn y coleg gyda’r darlithydd dylanwadol, John Gwilym Jones, a llenorion amlwg fel Gwenlyn Parry, Huw Lloyd Edwards a Harri Pritchard Jones yn dod i’w gwylio. “Roedd yna lot fawr o bobol yn dod i weld y dramâu yma,” cofia.
Tywyll Heno – “y peth gorau”
Er bod pawb yn ystyried Y Tŵr fel eu gwaith enwocaf gyda’i gilydd, mae gan y ddau ffefryn arall, sef Tywyll Heno, addasiad o waith Kate Roberts a wnaed gan Ffilmiau Eryri yn 1985.
Drama gan Ewart Alexander oedd i fod i gael ei gwneud yn wreiddiol, ond roedd y pwnc, llosgach, “yn ormod i’r sianel ei dderbyn ar y pryd,” yn ôl John Ogwen. “Roedden ni eisoes wedi cyflogi dyn camera a chyfarwyddwr a bob dim.”
Er bod Kate Roberts wedi rhoi caniatâd i’r ffilm, yn anffodus bu farw’r llenor o Rosgadfan cyn cael ei gweld ar deledu. “Roedd Kate Roberts wedi dweud mai mewn lluniau roedd hi wedi gweld y nofel,” meddai John.
Bu Tywyll Heno yn llwyddiant annisgwyl i’r rheiny oedd ynghlwm â hi yn ôl Maureen Rhys. “Mi ddaeth y ffilm iawn ar yr amser iawn,” meddai. Mae’r ddau o’r farn mai rhan o’r llwyddiant oedd bod y dyn camera, Dafydd Hobson, yn medru’r Gymraeg.
“Mae yna bobol camera arbennig o dda sy’ ddim yn deall Cymraeg fedar wneud ffilm Gymraeg – ond roedd y ffaith ei fod o’n deall Cymraeg yn help garw i hon,” meddai Maureen. “Mi’r oedd ganddon ni un lle, mi’r oedd o’n dod i mewn i’n llygad i fel’na, ac roedd yna gydweithrediad rhwng y ddau ohonon ni. Oherwydd ei fod o’n siarad Cymraeg wnaeth hynna ddigwydd. Wnes i ddim sylweddoli tan yr olygfa yna bron pa mor bwysig ydi iaith yn y cyswllt o dynnu llun ar ffilm.”
John: “Roedd o wedi darllen y sgript, wrth gwrs, ymlaen llaw, ac roedd ganddo fo syniadau lle’r oedd o a David Lyn yn medru gweithio efo’i gilydd.
“Y rheswm mai rhywun yn dweud ei fod o’r peth gorau ydi – roedd popeth wedi gweithio; doedd yna ddim gwastraff amser achos deg diwrnod oedd efo ni; ac roedd perfformiad Maureen fel Bet yn ysgubol. Roedd fel petasai bob dim wedi dod at ei gilydd.”
Actio T H Parry-Williams
Ail ran John Ogwen a Maureen Rhys yn 80…
Cydweithiodd y ddau ar broject difyr arall i Ffilmiau Eryri un tro. Lluniodd Maureen Rhys sgript yn seiliedig ar farddoniaeth tri bardd o bwys – R Williams Parry, T H Parry Williams ac W J Gruffydd – gyda John Ogwen yn portreadu’r tri.
“Mi wnaethon nhw ddangos tamaid ohonyn nhw [yn y digwyddiad Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno…] yn Aberystwyth – ac o’n i’n rhyfeddu pa mor debyg oeddwn i!” meddai John.
T H Parry-Williams oedd yr hawsa’ i’w wneud. Wnaeth John ddim ceisio dynwared llais y bardd o Gwm Glo yn union, meddai, gan osgoi mynd ati i ddyfynnu llais pwysfawr, dramatig T H. “Wnes i ddim ei wneud o fel’na. Mi wnes i wneud o fel f’uni i fy hun. Ond mi’r oedd tinc bach.”
Mae’n adrodd hanes ffilmio un olygfa lle mae T H Parry-Williams yn eistedd wrth ei ddesg yn sôn wrth ei ewythr am ennill y Goron a’r Gadair. “A’i ewythr yn gofyn: ‘Mi gest ti bres am ennill y Gadair yma?’ ‘Do’. ‘Faint gest ti?’ ‘£20.’ ‘A’r Goron – gest ti bres am honno hefyd?’ ‘Do.’ ‘Faint?’ ‘£20.’ ‘Do, £40, ac mi wnest ti nhw’i gyd ar dy dîn’.”
Maureen: “Ro’n i eisio rhoi hynna i mewn, achos mae o’n eu gwneud nhw’n ddynol. Mi wnes i fwynhau eu gwneud nhw i gyd, ond ro’n i eisio iddyn nhw weld y bobol.”
“John yn fwy allblyg”
Fe fydd y ddau yn cynnal nosweithiau hyd y wlad, yn perfformio darnau dramatig a llenyddol ac yn sgwrsio am eu gyrfaoedd difyr.
“Rydan ni wedi gwneud cannoedd ar gannoedd o nosweithiau i gymdeithasau,” meddai John Ogwen, ac yn ôl Maureen Rhys: “Mae hwnna i fi’r un mor bwysig, achos mae pobol yn bwysig.”
Serch hynny, John yw’r un sy’n hoffi cymdeithasu fwyaf o’r ddau. “Dw i’n leicio bod ar fy mhen fy hun, ges i fy magu efo Nain, yn ddistaw,” eglura Maureen. “Mae John yn fwy allblyg na fi o lawer.”
Ydi hyn yn creu balans da o ran priodas, felly? “Mae hi’n dibynnu!” meddai’r ddau ar yr un pryd. “Weithiau mae yna fwy yn un clorian na’r llall,” meddai John.
Mae Maureen yn honni mai dim ond i ddau barti mae hi erioed wedi bod iddyn nhw. “Dw i’n leicio gwneud nosweithiau, a phaned wedyn, ond mi wy ti…” meddai, gan droi at ei gŵr, “yn entertênyr go-iawn.”
Ac mae hi’n hynod ddifyr gwrando ar John Ogwen yn sôn am droeon ei yrfa. Fel y stori amdano’n cael ei alw i Lundain ar ôl cael ei argymell am ran y Cymro Morgan Evans ar gyfer cynhyrchiad The Corn is Green a oedd yn BBC Play of the Month yn 1969 – un o’r rhannau prin i Gymro ar y pryd.
Aeth i gyfarfod â’r cyfarwyddwr yng nghanolfan y BBC. “Dyma fo’n sbïo arnaf i,” meddai, “a be’ ddeudodd o wrtho fo’i hun, medda fo wrtha i wedyn, oedd: ‘Oh God, I hope this boy can act’. Ro’n i yn union be’r oedd o eisio – bychan, tywyll. Dyma fi fyny, a dyma fo’n gofyn i mi ddarllen.
“Mi’r oedd yna ddyn mawr yno, mewn siwt ffantastig a rhyw ffunan yn ei bocad – ffeindiais i mai dyn o’r enw Vic Messina oedd hwnnw, sef Pennaeth Drama’r BBC – a dyma fi’n darllen y ddwy ran iddyn nhw… Dyma fo’n sbïo a dweud: ‘When’s your train back to Wales?’ ‘Five o’ clock’. ‘Oh fine’. So be’ naethon nhw oedd ffonio’r hogan oedd wedi ennill yr Oscar, Wendy Hiller, gyrru car i’w nôl hi i Beckonsfield, a dod â hi nôl. Ac mi wnes i ddarllen o efo hi, a dyma hi’n dweud: ‘He’s the one I want’.”
Dyma adolygydd The Sunday Times yn cyfeirio at John Ogwen fel ‘the new James Cagney’ ar ôl gweld ei berfformiad. “Ond doedden nhw ddim wedi ’ngweld i yn dawnsio ma’ raid!” meddai. “‘A remarkable début’ a ballu.”
Roedd y ddau wedi disgwyl pethau mawr ar ôl The Corn is Green, ond nid felly y bu. “Ro’n i eisio i John gymryd y cyfle,” meddai Maureen. “Ar ôl i chi wneud rhan fel yna, ro’i yn meddwl: ‘Dyna fo’n ’de, John!’
“Ond dydi actio ddim yn digwydd fel’na… Ro’n i’n meddwl fysa drysau yn mynd i agor fyny i John ar ôl (hynny)… ond wnaethon nhw ddim. Gafodd John siom. Wel, ges i siom.”
Aeth John Ogwen ymlaen i gael gyrfa ddisglair iawn ar deledu, yn y Gymraeg ac yn Saesneg. I’r Cymry, roedd yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ein sianel, yn ymddangos ar gyfresi hynod boblogaidd megis Minafon a Deryn.
Daeth yn adnabyddus i bobol y tu allan i Gymru fel Twm Sion Cati yn y gyfres Hawkmoor ar y BBC yn 1967, a rhannau wedyn yn The District Nurse a Doctor Who.
“Mae John wedi gwneud lot fawr o gyfresi ofnadwy o boblogaidd,” meddai Maureen. “Dw i erioed wedi honni bod gen i yrfa’r un fath â John.” Dywed ei bod hi wedi gorfod gwrthod gwaith actio os oedd yn golygu teithio ymhell oherwydd bod ganddyn nhw blant bach. “Roedd yn rhaid i fi fod yn ofalus.”
‘Dim byd gwaeth yng Nghymru nag adrodd’
Mae gan John Ogwen stori dda am ei lwyddiant fel actor cyfresi ar S4C yn yr 1980au. “Un o’r pethau ddaru fy mhlesio i yn ofnadwy,” meddai.
“Eistedd mewn car ym Mangor ac o’n i’n gweld yr hogyn yma yn dŵad at y car. Mi’r oedd o mewn siwt jîns denim a phlentyn bach ar ei fraich o… Dyma fi’n agor y ffenast, a dyma fo’n dweud: ‘Are you the Deryn, aye?’ Dyma fi’n dweud: ‘Yes’.’ ‘Ah, it’s great, I really enjoy it’, a chodi ei fawd. A dyma fi’n meddwl – ma’ hwn yn hogyn sy’n dallt Cymraeg os ydi o’n medru deall Cymraeg graenus [Meic] Povey a Mei Jones.”
Yn ôl John Ogwen, fedrwch chi ddim dysgu neb i actio.
“Dw i’n falch fy mod i wedi rhoi’r gorau i adrodd pan o’n i’n rhyw 13 oed, achos does yna ddim byd gwaeth yng Nghymru nag adrodd. Dydi o ddim yn gwneud actorion. Dydi’r ffaith eich bod chi’n cofio darn o farddoniaeth ddim yn dweud eich bod chi’n medru bod yn actor. Dw i’n meddwl bod actor yn gynhenid yndda chi. Fedrwch chi ddim dysgu neb i actio – fedrwch chi ddysgu nhw actio’n well a llefaru’n well…”