Portread o Owain Llŷr Evans
Mae gweinidog o Gaerdydd sydd wedi gwasanaethu yn yr un eglwys ers dros ugain mlynedd wrth ei fodd gyda jazz a cherddoriaeth fyw.
Ers 22 o flynyddoedd, mae’r Parchedig Owain Llŷr Evans yng ngofal Eglwys Minny Street yn ardal Cathays o’r brifddinas.
Cyn hynny bu’r tad i ddau yng ngofal saith eglwys yn ardal Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, a dilynodd ôl troed ei dad, Byron Evans, i bregethu.