Mae’r hanesydd, digrifwr stand-yp ac YouTuber o Fangor yn gwirioni gyda dillad vintage o ddechrau’r ugeinfed ganrif, gan ddisgrifio’i steil fel un “hen ffasiwn”.

Bellach yn byw yn ninas Efrog yng ngogledd Swydd Efrog, Jimmy sy’n cyflwyno fideos Codi Bwganod, sef cyfres gan gwmni cynhyrchu Rondo i S4C sy’n trafod llên gwerin a straeon ysbryd Cymru.