Parchu ei gynulleidfa a rhoi gwerth i’w straeon – dyna ran o genhadaeth y cwmni drama o Gastell-nedd…

The Fight yw enw sioe ddiweddaraf cwmni Theatr na nÓg – stori am baffiwr du o Ferthyr. Mae yn gynhyrchiad sy’n driw i ethos y cwmni sy’n dathlu ei 40 mlwyddiant eleni – yn adrodd stori dda sy’n perthyn i’r gymuned y mae’r cwmni theatr yn ei gwasanaethu.