Camgymeriad fyddai meddwl am yr Egin yng Nghaerfyrddin fel HQ S4C yn unig – mae yno bymtheg a mwy o gwmnïau, bwyty a gweithgareddau i’r ifanc…
Er mai ‘Canolfan S4C yr Egin’ yw’r enw swyddogol, mae tri llawr i’r adeilad – a dim ond un o’r rheiny sy’n gartref i bencadlys y Sianel Gymraeg. Ar y ddau lawr arall mae degau o weithwyr cwmnïau cynhyrchu teledu, yr Urdd a’r Theatr Genedlaethol yn llafurio.