Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Cwlwm gan Ffion Enlli. Dw i ond ychydig o benodau i mewn ar hyn o bryd, ond yn ei garu yn barod. Mae’n hawdd ei ddarllen, yn hawdd uniaethu ag o, ac mae’r amrywiaeth o ran cymeriadau yn ddifyr iawn. Dw i ar ei hôl hi braidd yn dod at y llyfr yma ond os ydach chi heb gael cyfle i’w ddarllen eto, mi fyddwn yn ei argymell i bawb.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd