Dw i newydd orffen gwylio’r rhaglen bwerus a dirdynnol Nathan Brew: Caethwasiaeth a Fi, sy’n adrodd stori’r cyn-chwaraewr rygbi Nathan Brew a’i berthynas deuluol â chaethwasiaeth. Drwy’r rhaglen, cawn ein cyflwyno i hanes un o gyndadau Nathan, Richard Brew, sef caethfeistr Seisnig a ddaeth yn fasnachwr caethweision yn yr hyn sydd heddiw yn Ghana. Dyma raglen sy’n trafod y berthynas hon â’r gorffennol mewn ffordd sy’n peri i’r gwyliwr feddwl yn ddwfn am y cysylltiad rhwng hanes p