Weles i gôl fendigedig yn ddiweddar. Sgoriodd Maya Ramirez o dîm merched Chelsea yn uchel i rwyd Arsenal i roi ei chlwb un gôl ar y blaen yn y Barclays Women’s Super League. Roedd hi wir yn gôl dda i’w gwylio, ond mi wnes i’r camgymeriad wedyn o ddarllen rhai o’r sylwadau o dan y clip ar y cyfryngau cymdeithasol.