Dim ond un lle y medra’ i fynd iddo’r wythnos hon, Cwmderi wrth gwrs. Os nad oeddech chi’n gwybod cyn hynny fod Pobol y Cwm yn dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant, fe fyddwch chi’n sicr yn gwybod os wnaethoch chi wylio eiliad o arlwy S4C yr wythnos diwethaf.

Cafwyd sawl stori fawr a phennod estynedig o’r opera sebon, ail ddarlledwyd sawl clasur o bennod o’r archif a dechreuodd y gyfres newydd o Gogglebocs Cymru gyda phennod arbennig bobol-y-cwm-aidd.