Mae’n debyg y bu nifer o ddarllenwyr Golwg yn gefnogwyr brwd o Margaret Thatcher. Fe gofiwch iddi sbaddu’r undebau a thrawsnewid yr economi.

Ond os nad oeddech yn hoff ohoni, rwy’n ofni fod Margaret arall ar y gorwel.

Wrth i mi sgwennu hwn, Kemi Badenoch sy’n debyg o arwain y Ceidwadwyr o fis Tachwedd ymlaen. Ac mae ganddi agenda bellgyrhaeddol.