Wi ddim yn ’nabod y bobol drws nesaf. Maen nhw wedi rhoi ffensys uchel lan yn yr ardd fel bo’ dim modd sgwrsio am y tywydd pan ni mas mewn tywydd braf. Dries i dynnu sgwrs ’da nhw pan symudon nhw mewn, ond doedd dim diddordeb ’da nhw. ‘Na fel ma’ hi rownd ffor’ hyn y dyddie ’ma. Pawb yn eu tai o flaen sgrins. Neb moyn cloncan.
Licen i fyw yng Nghwmderi.
O, wi’n gwybod yn iawn na fydde fe’n fêl i gyd, ’da’r holl farwolaethe’ a’r yffêrs a phopeth sy’n mynd mla’n ’na. Ond bydde fe fel mynd gartre ’fyd.
Fi ’di bod yn setlo i mewn i gysur fy nosweithiau yng Nghwmderi ers hanner canrif. Hanner canrif! Ro’n i’n ifanc bryd ’ny, yn rhywun arall. Drwy lygad y teledu, mae’r cwm wedi ‘ngwylio i’n aeddfedu, yn symud o fod yn gwylio yn nhŷ Mam a Dat i dŷ John a finne i’r byngalo bach ’ma ar ‘mhen fy hunan. Mae’r cwm wedi ‘ngwylio i’n feichiog sawl tro, a’r plant yn casglu o gwmpas fy nhraed cyn tyfu’n dal a gadael y nyth. Mae e wedi gwylio ‘mhrysurdeb a ‘nhawelwch hefyd, wedi clywed pob sgwrs a dadl. Wedi gwylio’r tawelwch rhyfedd oedd yn llenwi’r lle ar ôl i John fynd. ‘Na pryd oedd angen lleisie’r cwm arna i fwy nag erioed.
Wi’n gwybod fod e’n swnio’n dwp, a so i’n dwp. Wi’n gwybod nad pobol go-iawn y’n nhw. Ond wi’n gwybod hefyd yn gwmws shwt fydden i’n ffitio i mewn i’r byd yna, achos wi wedi bod yn rhan ohono fe ers hanner canrif. Yn gwybod y byddwn i rhywle rhwng Megan a Cassie o ran cymeriad, ac y bydden i’n amheus o Hywel ond yn joio sgwrsio ’da Mark Jones. Y byddai Colin yn ffrind, a Ffion a finne’n tueddu tynnu’n groes i’n gilydd. Wi’n adnabod y rhain, wedi dathlu a galaru a bodoli gyda nhw. Maen nhw wedi bod ’na i fi, yn oleuni dibynadwy o’r bocs bach hael yng nghornel y lolfa, a hynny pan oedd popeth arall yn y byd yn teimlo’n fud ac yn dywyll.
Hanner canrif mewn pentref sydd ddim yn bodoli, heblaw ei fod e, mewn ffordd. Wi’n gwybod shwt arogl fydde ’na, shwt fyddai cynhesrwydd y Deri’n teimlo ar ôl oerfel y stryd. Felly na, so i’n ’nabod y bobol drws nesa’, ond mae cymdogion da gyda fi yng Nghwmderi.