Dechreuais i swydd newydd wythnos diwethaf yn darlithio ar y cwrs MA mewn ‘Queer Performance’ yng Ngholeg Rose Bruford, ac fe wnes i gwrdd â’r myfyrwyr sydd ar fin gorffen y cwrs o’r flwyddyn flaenorol. Fe wnaethon nhw rannu’r un ansicrwydd gyda fi â niferoedd o gyn-fyfyrwyr o gyrsiau gwahanol rwyf wedi bod yn siarad gydag yn ddiweddar. Cyrsiau celfyddydol ôl-raddedig yn aml, ond rydw i hefyd yn cael yr un sylwadau gan fyfyrwyr israddedig hefyd. Y cwestiwn yw: Sut ydyn ni fod i oroe